Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ein cynnydd o ran yr ymrwymiad yn Ffyniant i Bawb; a nodwyd eto yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, cynllun cyflawni'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer y Cymoedd; i gyflawni cynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer iechyd meddwl. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni bellach wedi dyfarnu cyfanswm o £1,351,066 i Mind Cymru a'r Groes Goch Brydeinig i gyflawni dau brosiect.

Bydd Mind Cymru yn cyd-gynhyrchu model presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer cyfeirio o weithwyr gofal iechyd rheng flaen at weithiwr cyswllt, a fydd yn darparu cynlluniau cymorth penodol a chefnogi ymgysylltiad â gwasanaethau cymunedol. Bydd cymheiriaid sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl yn cynnig cymorth ychwanegol. Byddant yn gweithio gydag oedolion sydd wrth eu hunain, yn unig ac mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl gwael yn ardaloedd Taf Elai, De Powys a Gogledd Sir Ddinbych.

Bydd y Groes Goch Brydeinig yn profi dau fodel gwahanol o bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer cleifion sy'n oedolion â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig, ac sy'n defnyddio gwasanaethau meddyg teulu neu ambiwlans yn gyson yn Sir Benfro a Chaerffili. Bydd cydlynwyr cyswllt yn gweithio gyda'r defnyddwyr gwasanaethau i'w helpu i osod nodau personol er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu ffyrdd gwahanol, nad ydynt yn glinigol, i reoli trallod meddwl.

Elfen ganolog o'r ddau gynllun peilot yw gwerthusiad cadarn, annibynnol i lenwi bylchau yn y sylfaen o dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli a'n helpu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn cwblhau cynlluniau ar gyfer trydydd cynllun peilot, ac rwy'n gobeithio cyhoeddi'r manylion yn fuan.

Mae'r cynlluniau peilot hyn yn rhan o'n dull gweithredu ehangach, sy'n cynnwys cyllido cynlluniau peilot presgripsiynu cymdeithasol drwy ein cronfa Arloesi i Arbed a chanolbwyntio ar bresgripsiynu cymdeithasol drwy ein Cynllun Cyllido Ymchwil: Grant Cymdeithasol Cymru, sy'n cael ei weinyddu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd y cynlluniau peilot yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd ar draws Cymru i hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael mynediad at ofal a chymorth sy'n eu gweld fel unigolion, ac sy'n ystyried yr holl ffactorau a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant.