Vaughan Gething MS, Minister for Health and Social Services
Heddiw rydym yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac rydym yn debygol o weld cynnydd mewn achosion dros yr hydref a’r gaeaf wrth iddi oeri ac wrth i bawb dreulio mwy o amser o dan do.
Mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru yn amlinellu sut y bydd pobl Cymru a sefydliadau ar draws Cymru yn cydweithio i reoli peryglon coronafeirws wrth inni baratoi ar gyfer misoedd yr hydref a’r gaeaf.
Mae ein dull o reoli’r coronafeirws yn seiliedig ar egwyddorion pwyll, cymesuredd a sybsidaredd.
Pwyll, gan fod atal yn well na gwella – atal lledaeniad y coronafeirws ddylai fod y brif flaenoriaeth inni.
Ond rhaid i'n camau gweithredu hefyd fod yn gymesur â'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni – ni ddylai ein hymyriadau fod yn fwy caeth nag sydd ei angen i reoli’r feirws. Byddwn yn diogelu Cymru wrth geisio gwneud cyn lleied â phosibl i amharu ar fywydau pobl.
Ac, yn olaf, mae egwyddor sybsidiaredd yn golygu y caiff penderfyniadau eu gwneud ar y lefel fwyaf effeithiol – gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd lleol i lywio penderfyniadau lleol gan arweinwyr etholedig lleol a chamau gweithredu lleol.
Mae'r cynllun yn disgrifio gwahanol gamau lledaeniad posibl coronafeirws. Mae'n nodi sut y byddwn yn ymateb mewn gwahanol amgylchiadau. Ymdrech ar y cyd yw hon gyda phawb â rôl i'w chwarae. O fusnesau i Lywodraeth Leol, GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a phob un ohonom yn chwarae ein rhan.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y dull y byddwn yn ei ddilyn gyda'n partneriaid, o atal i (os oes angen) gyflwyno mesurau ar lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol.
Does neb eisiau cyfnod clo arall. Ond nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Er mwyn diogelu Cymru, mae’n rhaid inni atal y feirws rhag lledaenu.
Mae gan bob person, pob busnes a phob sefydliad yng Nghymru rôl i’w chwarae i atal lledaeniad coronafeirws a diogelu Cymru.
Rwy’n gwneud y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach ar ôl y toriad os byddai o gymorth i’r aelodau.