Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26. Mae lle amlwg i les anifeiliaid yn ein Rhaglen Lywodraethu ddiweddar ac mae'r cynllun uchelgeisiol hwn yn nodi sut y byddwn yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol sydd eisoes wedi’i gyflawni yng Nghymru ym maes lles anifeiliaid ers datganoli pwerau i Gymru yn 2006.

Yn ystod tymor hwn y Llywodraeth, byddwn yn cyflwyno ystod eang o bolisïau i gynnal momentwm y diwygiadau sydd wedi’u gwneud ym maes lles anifeiliaid ers datganoli’r pwerau hynny i ni. Ein huchelgais yw bod holl anifeiliaid Cymru yn cael byw bywyd o ansawdd da. Dyna nod strategol ein Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid a’r edefyn sy’n cysylltu pob un o’n polisïau.

Bydd ein cynllun yn cynnwys mynd i’r afael â phedwar ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu, a hefyd esbonio sut y byddwn yn integreiddio’r ystod o bolisïau lles anifeiliaid rydyn ni’n gweithio arnyn nhw, gan gynnwys canllawiau statudol ar gyfer Rheoliadau, trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid, lles anifeiliaid wrth eu cludo a Chodau Ymarfer.  Rydym yn cydnabod hefyd bod angen adolygu’r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid ond gan gadw peth hyblygrwydd i allu cymryd camau polisi newydd os gwelir bod angen. Yn olaf, bydd y cynllun yn ystyried sut a phryd y dylem gydweithio â gweinyddiaethau eraill y DU er mwyn gwireddu’n hamcanion o ran lles anifeiliaid yng Nghymru a thu hwnt.

Wrth gyflawni'r uchelgais hwn, datblygwyd ein cynllun yn unol â mentrau polisi amlwg eraill, yn enwedig Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac egwyddorion Un Lles.

Mae llwyddiant ein cynllun yn dibynnu ar gydweithio. Rydyn ni’n ddiolchgar am ein perthynas gref a hir â’r diwydiant ffermio, mudiadau’r trydydd sector, Awdurdodau Lleol Cymru, asiantaethau gorfodi eraill, milfeddygon, y cymunedau gwyddonol a’n cydweithwyr yng ngweinyddiaethau eraill y Deyrnas Unedig.  Lawn cyn bwysiced yw’n cysylltiadau uniongyrchol â phobl Cymru, trwy eu gohebiaeth â ni, eu hymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ac yn fwy sylfaenol, trwy eu cydnabyddiaeth o’u rôl allweddol fel perchenogion cyfrifol ar eu hanifeiliaid.

Ein nod yw bod Cymru’n cael cydnabyddiaeth fel esiampl i bawb oherwydd ei safonau, am y modd y mae arferion da yn cael eu mabwysiadu a’u rhannu, am y modd y trafodir â’r prif randdeiliaid, am y mecanweithiau gorfodi effeithiol, cefnogol a chynaliadwy sy’n cael eu datblygu, am ei chyfraniad at  ymchwil ac am hyrwyddo addysg a pherchenogaeth gyfrifol, hynny er lles cenedlaethau heddiw ac fory.

Gwlad fach yw Cymru, ond mae’n disgwyliadau’n fawr ac yn eang eu cwmpas. Rwy’n rhoi gwahoddiad cynnes i bob asiantaeth, grŵp rhanddeiliaid a’r cyhoedd ledled y wlad i fabwysiadu a chefnogi’n Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru.