Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddechrau’r llynedd a chyn cyfnod y pandemig, dechreuodd fy Adran ddatblygu cynllun gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru, fframwaith gweithredu i ddiogelu’r rhan allweddol hon o’n heconomi ar gyfer y dyfodol.

Yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda diwydiant, y byd academaidd a’n partneriaid cymdeithasol rydw i’n falch heddiw i lansio ein Cynllun Gweithgynhyrchu: Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith Gweithredu.

Hoffwn gofnodi fy niolch i Diwydiant Cymru, yr undebau llafur a chynrychiolwyr niferus y sector gweithgynhyrchu sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn. 

Ffocws y cynllun ydy diogelu ein gallu gweithgynhyrchu ar gyfer y dyfodol. Mae’n nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu gwerthfawr a chadarn gyda gweithlu hyfedr a hyblyg sy’n medru darparu’r cynnyrch, y gwasanaethau a’r technolegau angenrheidiol ar gyfer ein heconomi yn y dyfodol.

Mae’n mynd i’r afael â materion pwysig sy’n ymwneud â newid hinsawdd a’r angen i ddatgarboneiddio a’r newidiadau technolegol sydd ynghlwm wrth Diwydiant 4.0, gan cynnwys awtomatiaeth, digidoleiddio ac amgylchedd mwy cysylltiedig.

Datblygwyd y cynllun hwn yng nghyd-destun sut rydym yn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer economi llesiant.  Mae tri chanlyniad yn sail iddo, sef:  

  1. Economi ffyniannus sydd angen ffocws cyson ar gadernid a’r gallu i drawsnewid.
  2. Economi werdd sy’n gofyn am gylcholdeb ar lefel uchel, lle y mae adnoddau’n parhau i gael eu defnyddio gan ychwanegu gwerth economaidd ac osgoi gwastraff.
  3. Economi gyfartal sy’n golygu buddsoddi ym mhotensial cynhyrchu pawb yn y gymdeithas.

I gyd-fynd â nodau ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ceir deg thema o fewn y cynllun:

  1. Newid hinsawdd a’r angen i ddatgarboneiddio;
  2. Newid technolegol;
  3. Sgiliau ar gyfer y dyfodol;
  4. Seilwaith modern ar gyfer y ffordd rydym yn gweithio ac yn cael gafael ar gyfleoedd gwaith;
  5. Gwaith teg;
  6. Cryfhau cydweithrediad i gynyddu arloesi;
  7. Datblygu cymunedau a chlystyrau is-sector;
  8. Cryfhau arweinyddiaeth a rheolaeth;
  9. Cryfhau cadernid y gadwyn gyflenwi drwy ail-leoli a lleoleiddio;
  10.  Angori rhagor o fusnesau yng Nghymru drwy gynyddu ymchwil a datblygu.

Byddwn yn datblygu pob un o’r camau gweithredu a nodwyd yn y cynllun mewn partneriaeth â diwydiant, y byd academaidd a’r undebau llafar.  Byddwn yn gweithio mewn modd trawslywodraethol gan ystyried blaenoriaethau Ein Cenhadaeth Cadernid Economaidd ac Adferiad.  Byddwn ni, ar y cyd â Diwydiant Cymru, yn sefydlu corff i oruchwylio a mesur cynnydd y gwaith hwn.

Dyma gychwyn y gwaith ac mae llawer yn fwy i’w gyflawni wrth roi’r cynllun hwn ar waith.  Rwy’n benderfynol y dylem wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau sector gweithgynhyrchu llewyrchus a chynaliadwy sy’n gallu bodloni gofynion a sialensau heddiw ac mewn byd ar ôl COVID, Brexit a thu hwnt.

Byddaf yn hysbysu’r Aelodau wrth i ni ddatblygu’r camau gweithredu uniongyrchol, tymor canolig a thymor hir a nodwyd yn y cynllun dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.