Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru wedi bod yn wlad fasnachu lwyddiannus ers tro byd. Mae ein nwyddau a’n gwasanaethau yn dal i gael eu hallforio ar draws y byd ac wedi ennill gwobrau lu. Mae gwerth allforion nwyddau Cymru wedi tyfu’n gyflymach na rhai’r DU rhwng 2015 a 2019, gan gyrraedd £17.8 biliwn yn 2019. Roedd y Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn ein hymrwymo i flaenoriaethu allforion a masnach, gan gefnogi allforwyr o Gymru i ddod o hyd i farchnadoedd newydd ledled y byd. Gwnaeth ein Strategaeth Ryngwladol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, atgyfnerthu ein huchelgais i adeiladu ar hyn a chynyddu gwerth allforion.

Fodd bynnag, ers cyhoeddi’r Strategaeth, mae’r economi fyd-eang wedi’i gweddnewid o ganlyniad i argyfwng digynsail COVID-19. Mae ystadegau dros dro ar gyfer allforion yn dangos yr effaith negyddol ar allforion Cymru gyda gwerth allforion nwyddau wedi gostwng 12.5% (ar gyfer y Flwyddyn hyd at Chwarter 2, 2020). Er bod gostyngiad o ran masnach nwyddau ymhob un o wledydd y DU, gostyngodd gwerth allforion Cymru yn fwy na rhai’r DU.

Mae hyn, ar ben yr ansicrwydd hirfaith am ein perthynas â’r UE yn y dyfodol, wedi llesteirio gallu busnesau i baratoi’n briodol ar gyfer diwedd y Cyfnod Pontio.

Heddiw, felly, rwy’n datgan bod Cynllun Gweithredu Allforio wedi’i gyhoeddi. Bydd yn sefydlu cymorth cynhwysfawr i’n hallforwyr i adfer ac ailadeiladu, drwy ddarparu cymorth i fusnesau ar unwaith, ac ailddyfeisio ac addasu ein cymorth ar gyfer dyfodol ‘normal newydd’ i’n hallforwyr.  Bydd y cynllun hwn yn rhan bwysig o ffordd Llywodraeth Cymru o weithio i gefnogi’r gwaith o adfer ac ailadeiladu economi Cymru.

Mae Cynllun Gweithredu Allforio yn canolbwyntio ar:

  • Addasu ein rhaglenni cymorth allforio presennol yn unol â ffyrdd newydd o weithio ac anghenion cyfnewidiol ein busnesau, yn enwedig drwy wella cymorth digidol drwy Hyb Allforio ar-lein a darparu ‘teithiau masnach rhithiol’ i farchnadoedd allweddol;
  • Rhoi cyngor a chymorth i allforwyr o Gymru ar ddiwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys drwy ein rhwydwaith o Ymgynghorwyr Masnach Rhyngwladol a rhaglen weminarau gynhwysfawr;
  • Cysylltu â rhagor o fusnesau yng Nghymru ar ‘sail un i nifer’, yn enwedig y busnesau hynny sydd â’r potensial i allforio, i’w hysbrydoli i ddilyn y ‘daith allforio’ a chyfrannu at ein nod hirdymor o gynyddu allforion o Gymru a chyfrannu at swyddi da;
  • Meithrin capasiti a gallu ar gyfer allforio i sicrhau bod ein busnesau’n meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder iawn i allu allforio’n llwyddiannus;
  • Datblygu ymyriadau cymorth allforio newydd, gan gynnwys cynllun peilot newydd Clystyrau Allforio i hwyluso rhwydweithiau cryf o gymorth allforio i sectorau busnes allweddol yng Nghymru, a
  • Darparu gweithgareddau tramor mewn marchnadoedd allweddol, yn enwedig ar gyfer y sectorau lle mae gennym gryfderau penodol, gan gefnogi busnesau i fanteisio ar gyfleoedd a ddaw yn sgil cytundebau masnach rydd newydd.

Mae’r Cynllun Gweithredu Allforio yn rhan o ‘deulu’ o gynlluniau a gyhoeddwyd fis diwethaf sy’n nodi’r camau penodol rydym yn eu cymryd i wireddu dyheadau’r Strategaeth Ryngwladol. Mae hynny’n cynnwys ein diplomyddiaeth gyhoeddus neu bŵer tawel, ein perthnasoedd a’n rhwydweithiau rhanbarthol sy'n cael blaenoriaeth a’r Cymry ar wasgar. Mae’n adeiladu ar Gynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac mae’n rhoi mwy o fanylion ar rai o’r blaenoriaethau strategol a nodir ynddo, megis parodrwydd busnesau a chymorth i fusnesau.

Mae’n hanfodol ein bod yn pwyso a mesur yr holl gymorth sydd ar gael ac yn bwrw ati ar unwaith i roi’r camau ar waith a fydd yn cefnogi ein hallforwyr. Rwy’n falch bod ein Hyb Allforio ar-lein newydd (ar https://export.businesswales.gov.wales/en/welcome) bellach ar gael fel adnodd pwysig i fusnesau Cymru, gan roi gwybodaeth fyw ar amrywiaeth o faterion allforio. Bydd yr hyb yn cefnogi allforwyr presennol a newydd i dyfu a mynd i’r afael ag unrhyw heriau a wynebir ganddynt o ran yr amgylchedd masnachu yn y dyfodol. 

Rwy’n trefnu cyfres o ‘ymweliadau marchnad allforio rhithwir’ ar unwaith (ar https://businesswales.gov.wales/export/cy/digwyddiadau-allforio/digwyddiadau-tramor/rhestr) ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon i’w gwneud yn bosibl i fusnesau Cymru barhau i gael y cyfle i gyfarfod â chwsmeriaid posibl mewn marchnadoedd targed, heb yr angen i deithio dramor. Yr wythnos diwethaf gwnaethom hefyd lansio cynllun peilot newydd ar gyfer Clwstwr Allforio sy’n canolbwyntio ar y sector Gwyddorau Bywyd a fydd yn tynnu busnesau ynghyd i rannu gwybodaeth ac arferion gorau ar allforio.

Hoffwn hefyd ddiolch i’n rhanddeiliaid allweddol a fu’n rhan o’r gwaith i ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Allforio. Wrth ei roi ar waith byddwn yn cydweithio’n agos â’n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat a rhwydweithiau rhanddeiliaid ehangach, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd hynny’n cynnwys defnyddio ein timau tramor ein hunain ledled y byd.

At ei gilydd, bydd y cyfnod hwn yn ein hanes yn siŵr o fod yn un o’r rhai mwyaf heriol i’n busnesau, yn enwedig wrth fasnachu’n rhyngwladol. Fodd bynnag, rwy’n credu mai ein Cynllun Gweithredu Allforio newydd yw’r rhaglen fwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr o gymorth allforio a roddwyd ar waith erioed yng Nghymru a bydd yn cefnogi ein pobl a’n heconomi i wynebu’r heriau nawr ac yn y dyfodol.