Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth inni nesáu at y gaeaf, rydym yn wynebu cyfnod heriol dros ben. Mae’r gaeaf bob amser yn anodd i’n cydweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond mae’r achosion o COVID-19 wedi ychwanegu haen arall, ac mae’n sefyllfa heb ei chynsail.

I sicrhau bod pob un ohonom yn barod, a bod gennym yr adnoddau a’r cynlluniau i wynebu’r her hon, rwy’n falch o gyhoeddi datblygiad ‘Cynllun Diogelu’r Gaeaf’ ar gyfer Cymru.

Bydd y cynllun hwn yn mynd i’r afael ag iechyd a gofal cymdeithasol a bydd hefyd yn cysylltu â’n partneriaid ehangach yn y trydydd sector a’r sector annibynnol wrth inni gydweithio i sicrhau y gallwn reoli’r heriau o’n blaenau.

Bydd y cynllun yn amlinellu disgwyliadau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac yn cyfrannu at unrhyw ymgysylltu gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach gan roi cyfeiriad clir i bob un ohonom ar gyfer gweddill y flwyddyn.

Bydd y cynllun yn adeiladu ar y dull pedwar niwed yr ydym wedi’i ddefnyddio fel sail i’n trefniadau cynllunio presennol gydag iechyd a gofal cymdeithasol hyd yma:

  • Niwed gan COVID-19 yn uniongyrchol
  • Niwed yn sgil llethu’r GIG a’r system gofal cymdeithasol
  • Niwed yn sgil lleihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID-19
  • Niwed yn sgil camau gweithredu cymdeithasol ehangach/cyfyngiadau symud

Bydd y dull hwn yn rhoi gwell sicrwydd inni mewn nifer o feysydd hanfodol. Mae angen sicrwydd ynglŷn â’r galw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Bydd modelu a’r cyngor y mae ein Llywodraeth yn ei gael o hyd gan y Gell Cyngor Technegol yn chwarae rhan bwysig yn hynny o beth. Mae’n hanfodol hefyd bod cyflenwadau priodol a digonol o gyfarpar diogelu personol ar gael yn ystod misoedd y gaeaf. 

Mae angen i gleifion gael gofal priodol yn y gymuned ac yn yr ysbyty, os mai dyna’r lle priodol iddynt fod. Dylai cleifion ddisgwyl cael gofal os ydynt yn sâl gyda COVID-19 ond dylent hefyd gael cymorth gyda chyflyrau eraill, yn enwedig cyflyrau brys sy’n bygwth bywyd. Mae’n rhaid i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol fod ar agor i bawb a bydd Cynllun Diogelu’r Gaeaf yn sicrhau ein bod yn cydweithio i gyflawni hyn, a bod ein holl wasanaethau hanfodol yn hyblyg i fedru diwallu’r anghenion hynny.

Rydym yn cydnabod pa mor galed y mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol, a gweithwyr allweddol eraill wedi gweithio yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd Cynllun Diogelu’r Gaeaf yn ceisio rhoi sicrwydd o ran ein gweithlu a gwell cadernid dros fisoedd y gaeaf.

Byddwn yn manteisio ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud o ran profion, gyda lansiad y Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru; yn ogystal â’r angen i gefnogi ymgyrch brechu rhag y ffliw estynedig a chynhwysfawr yr hydref hwn.

Rydym wedi dysgu llawer iawn ac rydym yn byw ac yn gweithio mewn amgylchedd y mae sawl un yn ei alw’n “normal newydd”. Rydym wedi manteisio ar gyfleoedd i wneud gwell defnydd o adnoddau a gwella gwasanaethau i gleifion e.e. llwybrau triniaeth ac ymgyngoriadau rhithwir. Bydd Cynllun Diogelu’r Gaeaf yn adeiladu ar y pethau hyn ac yn ceisio cymell arloesi pellach yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â chadernid cymunedol i sicrhau y gallwn “ddiogelu Cymru gyda’n gilydd”.

Bydd Cynllun Diogelu’r Gaeaf yn cael ei gyflwyno ym mis Medi. Bydd yn nodi’n glir yr hyn sy’n ddisgwyliedig ar gyfer y rhai hynny sy’n darparu’r gwasanaethau, gan ddangos sut y gallwn gydweithio i gyflawni gwasanaethau diogel a gwydn dros fisoedd y gaeaf.

Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion i aelodau ym mis Medi pan fydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.