Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Cyflwynir y Datganiad Ysgrifenedig hwn i lansio’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches sy’n datgan sut gallwn weithio gyda’n gilydd i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i greu bywyd o’r newydd iddynt eu hunain yng Nghymru. Mae’n bwysig tynnu sylw at y cyfraniad a wna ffoaduriaid a cheiswyr lloches i fywyd yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae ganddynt amrywiaeth eang o sgiliau i’w cynnig.
Mae llawer iawn o waith da eisoes wedi cael ei wneud i helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ac mae llawer o wasanaethau a grwpiau o wirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i roi cymorth amhrisiadwy. Y nod yw sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn meddu ar sgiliau iaith a sgiliau byw a’u bod yn cael cyfleoedd i’w helpu i addasu’n haws i fywyd yng Nghymru ac i’n diwylliant a’n harferion.
Er hynny, rydym yn cydnabod bod nifer o bethau sy’n gallu rhwystro ffoaduriaid a cheiswyr lloches rhag integreiddio. Mae’r Cynllun Cyflawni hwn yn datgan y camau a gymerwn gyda’n gilydd i roi sylw i’r rhwystrau hyn a helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at wasanaethau a chyfrannu at gymdeithas. Mae’n rhaid inni gydweithio gyda chymunedau i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.
Wrth ddatblygu’r Cynllun Cyflawni a gosod y blaenoriaethau, fe wnaethom ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, er mwyn deall eu sefyllfaoedd, eu rhwystredigaethau, eu hanghenion a’u pryderon, ac er mwyn clywed eu hawgrymiadau ar sut i ddelio â’r rhain. Mewn amgylchedd polisi sy’n newid, ac wrth i ffyrdd gwell o roi sylw i’r heriau hyn gael eu canfod, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws sectorau a gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i sicrhau bod eu hanghenion amrywiol yn cael eu bodloni.
Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae Cymru wedi croesawu ffoaduriaid o Syria fel rhan o Raglen Adsefydlu Syriaid Llywodraeth y DU. Mae’r rhaglen hon wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau ond rwy’n ymwybodol o’r nifer fawr o geiswyr lloches sy’n dod i Gymru ac yn aros fel ffoaduriaid o nifer o wledydd eraill. Nod y Cynllun Cyflawni hwn ydy helpu’r holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pa bynnag lwybr sydd wedi arwain at iddynt wneud Cymru’n gartref iddynt. Mae’r holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches angen ein cefnogaeth wrth iddynt addasu i’w bywydau newydd ac mae’r Cynllun Cyflenwi hwn yn datgan ein hymrwymiad i’w helpu yn y broses hon.
Mae’r Cynllun yn ddogfen fyw a bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches i’w weld yma.