Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Mae’r UNHCR – Asiantaeth y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid – yn amcangyfrif bod dros 2.5 miliwn o bobl wedi ffoi o Wcráin ers i Rwsia ymosod ar y wlad Ewropeaidd sofran hon bron i dair wythnos yn ôl.
Mae pobl – menywod, pobl hŷn ac agored i niwed a phlant yn bennaf – yn gadael eu cartrefi i geisio diogelwch rhag y bomio di-baid ac ymosodiadau llywodraeth Rwsia, naill ai mewn rhannau eraill o’u gwlad neu y tu hwnt i ffiniau Wcráin. Mae llawer wedi cael noddfa gan ein cymdogion Ewropeaidd.
Rydym yn croesawu camau Llywodraeth y DU yn y dyddiau diwethaf i’w gwneud yn haws i’r rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin wneud cais am fisa neu nawdd i ddod i’r DU.
Dros y penwythnos, ysgrifennais ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban at Y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, yn cadarnhau cefnogaeth ein llywodraethau ar gyfer cynllun Llywodraeth y DU, Cartrefi i Wcráin.
Rydym wedi cynnig y bydd Cymru a’r Alban yn gweithredu fel “uwch-noddwyr” o dan y cynllun newydd.
Mae Cymru wedi ymrwymo i gefnogi 1,000 o bobl i ddechrau yn rhan gyntaf y cynllun. Mae’r ffigur hwn wedi’i seilio ar ein profiad o gynlluniau adsefydlu dinasyddion Affganistan a Syria. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn a derbyn ein cyfran deg a chymesur o’r ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i’r DU.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU wrth i fanylion y cynllun hwn ddatblygu a chael eu cadarnhau er mwyn sicrhau ein bod yn barod i dderbyn ffoaduriaid o’r penwythnos hwn pan fydd y fisâu cyntaf a’r trefniadau paru o dan y cynllun newydd yn dechrau.
Yn y cyfamser, rydym yn gweithio’n agos gyda’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru a phartneriaid ehangach i baratoi ar gyfer croesawu ffoaduriaid i Gymru.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y berthynas weithio agos sydd gennym ag awdurdodau lleol a’r trydydd sector yng Nghymru.
Rydym am sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i bawb sy’n dod i Gymru o Wcráin – boed hynny drwy’r cynllun newydd, Cartrefi i Wcráin, neu drwy’r llwybr fisa teuluol – yn enwedig i’r rhai hynny sydd efallai’n dioddef trawma yn sgil effaith y gwrthdaro yn eu mamwlad.
Mae llawer o waith eisoes wedi’i wneud ac rydym yn adeiladu ar ein profiad cyfunol fel Cenedl Noddfa.
Rydym yn sefyll gydag Wcráin a bydd croeso cynnes yma i’r holl rai sy’n dod i Gymru.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi i Aelodau o’r Senedd wrth i’n cynlluniau gael eu cadarnhau.