Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rheoleiddiwr annibynnol y gweithlu addysg, mae'n ofynnol i Gyngor y Gweithlu Addysg gyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru. Mae hefyd yn ofynnol iddynt gynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol yn y gweithlu. 

Mae Comisiynydd Plant Cymru a'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro wedi gwneud argymhellion ynghylch atgyfnerthu'r ddeddfwriaeth ar gyfer cofrestru â'r Cyngor. 

Rwyf felly yn lansio ymgynghoriad i geisio barn ar ddiwygio'r categorïau cofrestru. Mae'r cynigion yn cefnogi gwaith sy'n mynd rhagddo i adolygu a diweddaru'r rheoliadau cyfredol ar gyfer ysgolion annibynnol, ac yn ceisio atgyfnerthu'r rheoliadau ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector ieuenctid a'r sector ôl-16. Bydd hyn yn golygu y byddai'n ofynnol hefyd i staff ysgolion annibynnol, staff y sector ieuenctid, a'r rhai sy'n gweithio yn y sector ôl-16 gofrestru â’r Cyngor. 

Mae'r ymgynghoriad yn nodi rhai o anghysondebau'r gofynion cofrestru presennol ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda'n dysgwyr ym mhob lleoliad ac yn eich gwahodd i fynegi eich barn ar sut y gallwn fynd i'r afael â nhw. Gall eich barn ar y cynigion hyn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael budd o'r mesurau diogelu ychwanegol a ddaw yn sgil trefniadau rheoleiddio proffesiynol.  Bydd y gofyniad i'n staff dysgu ac addysgu gofrestru â'r Cyngor yn aros yr un peth, ni waeth ble y maent yn gweithio.

Mae'r ymgynghoriad (Categorïau cofrestru newydd ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg) yn dechrau heddiw, 1 Mawrth 2022, a bydd modd gwneud sylwadau arno nes 24 Mai 2022.