Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ar 27 Mehefin, cyhoeddais ddatganiad yn cadarnhau fy mod yn bwriadu darparu cymorth ffurfiol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Gellir gweld y datganiad yma.
Ar 18 Gorffennaf, mi wnes i gadarnhau mewn datganiad pellach (yma) fy mod wedi penodi dau gynghorydd profiadol i gyflawni cam cyntaf y cymorth, sef adolygiad cwmpasu cychwynnol, ar fy rhan.
Penodwyd Mr John Gilbert, cyn Brif Weithredwr awdurdod lleol profiadol, yn gynghorydd allanol ar faterion corfforaethol er mwyn cynnal yr adolygiad cwmpasu cychwynnol. Y bwriad oedd iddo ddarparu barn annibynnol drylwyr ynghylch yr heriau sy'n wynebu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar hyn o bryd, a rhoi cyngor ynghylch y camau sydd angen eu cymryd i wneud newidiadau angenrheidiol, fel sylfaen ar gyfer cymorth a chyngor pellach.
Mae Ms Kate Allsop yn gyn faer etholedig gyda Chyngor Mansfield, a safodd fel aelod o Fforwm Annibynnol Mansfield. Roedd ei rôl ym Merthyr yn gwbl glir: cafodd ei phenodi yn gynghorydd i ddarparu cyngor a chymorth gwleidyddol ddi-duedd i aelodau ar lywodraethiant effeithiol, gan drafod gyda’r holl bleidiau gwleidyddol a chydbwyso blaenoriaethau strategol gydag anghenion lleol. Ar sail ei gwaith, byddai’n darparu adroddiad i mi ar y camau y byddai angen eu cymryd i roi cymorth a sicrhau gwelliannau yn y dyfodol. Roedd angen i Ms Allsop weithio’n agos ac yn effeithiol gyda'r Arweinydd, y Cabinet ac aelodau eraill o'r cyngor o bob plaid i ddatblygu a chryfhau'r berthynas waith.
Fodd bynnag, ar ddydd Gwener 2 Awst, heb fy rhybuddio i na'm swyddogion o flaen llaw, cyhoeddodd Ms Allsop y byddai'n sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf fel ymgeisydd seneddol ar ran plaid Brexit. Ddydd Sadwrn 3 Awst, yn sgil y cyhoeddiad hwn, cytunwyd na fyddai modd i Ms Allsop barhau bellach fel cynghorydd gwleidyddol ar gyfer y cam cychwynnol hwn o gymorth ffurfiol.
Penodwyd Ms Allsop yn dilyn proses ddethol drylwyr. Bu fy swyddogion yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mewn cysylltiad â'r Gymdeithas Llywodraeth Leol fel ffynhonnell gydnabyddedig o arbenigedd, wrth ddod o hyd i ymgeiswyr addas i lenwi rôl cynghorydd annibynnol. Roedd nifer o'r ymgeiswyr hynny yn dod o'r tu allan i Gymru. Rwyf wedi bod yn awyddus erioed i geisio dysgu gan arferion o fannau eraill, ac nid wyf yn barod i osod cyfyngiadau daearyddol ar fy newisiadau. Gallwn ddysgu llawer drwy gynnwys cynghorwyr ag arbenigedd o’r tu allan i Gymru. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn pwyso a mesur cyngor o sawl cyfeiriad yn aml iawn yn y gorffennol. Yn yr achos hwn, roeddwn yn hyderus y byddai modd i’r holl ymgeiswyr dan ystyriaeth gynnig cymysgedd ddefnyddiol o brofiad perthnasol a phersbectif newydd. Mae pecynnau cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnig i gynghorau yn y gorffennol wedi elwa’n sylweddol ar y math hwn o fewnbwn allanol.
Yn sgil cyfansoddiad gwleidyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar hyn o bryd, ac yn dilyn trafodaeth gyda'r Arweinydd, roedd sicrhau cynghorydd o gefndir gwleidyddol annibynnol yn ffactor allweddol wrth ddewis ymgeisydd y gallai'r rhan fwyaf o aelodau weithio gydag ef neu hi.
Ni roddodd Ms Allsop unrhyw awgrym i ni yn ei CV nac mewn sgyrsiau dilynol ei bod yn ymwneud mewn unrhyw ffordd ag unrhyw blaid wleidyddol, na'i bod yn ystyried sefyll ar ran plaid wleidyddol wrth i’m swyddogion ystyried a oedd yn addas ar gyfer y rôl. Penderfynais ei phenodi felly fel cynghorydd annibynnol, ar sail ei phrofiad helaeth diamheuol yn gweithio ar y lefel uchaf dros nifer o flynyddoedd fel cynghorydd annibynnol mewn llywodraeth leol. Fodd bynnag, roedd penderfyniad Ms Allsop i sefyll i fod yn Aelod Seneddol yn newid ei statws annibynnol yn llwyr, ac felly’n tanseilio’r holl sail ar gyfer ei phenodiad. Ni fyddwn wedi penodi unrhyw ymgeisydd i fod yn gynghorydd os oedd yn cymryd rhan amlwg mewn gweithgarwch gwleidyddol ar lwyfan cenedlaethol.
Rydym ni wedi gweld cyfres o ddigwyddiadau annisgwyl ac anffodus. Ond rhaid i ni beidio â chaniatáu i hynny dynnu sylw oddi wrth y mater sydd dan sylw. Mae sefyllfa bresennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn un ddifrifol, a rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gefnogi'r Cyngor i sicrhau bod modd iddo wasanaethu pobl Merthyr Tudful mewn ffordd effeithiol ac effeithlon; a gweithio'n galed i sicrhau bod y cam cyntaf hwn o gymorth yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib.
Bydd fy nghynghorydd allanol, Mr John Gilbert yn parhau i gynnal ei adolygiad cychwynnol o'r Cyngor. Fel y dywedais yn flaenorol, bydd yr adolygiad yn edrych ar y prif heriau sy'n wynebu'r Cyngor, ac ar y diwedd bydd Mr Gilbert yn darparu adroddiad yn nodi ei ganfyddiadau. Bydd yr adroddiad hwnnw yn cael ei ddefnyddio i bennu camau sydd angen eu cymryd ar unwaith a hefyd i gynnig sylfaen ar gyfer cam nesaf y pecyn cymorth. Disgwylir i Mr Gilbert adrodd ganol mis Medi, ac yna fe fyddaf yn ystyried natur y cymorth gwleidyddol a fydd yn cael ei ddarparu i'r Cyngor.
Rwyf wedi trafod y mater hwn gydag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin O’Neill, ac mae’n cytuno mai dyma’r ffordd ymlaen.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.