Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddaf yn defnyddio fy mhwerau o dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ddarparu pecyn o gymorth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gan ddechrau ar unwaith.

Fel ymateb i gais ffurfiol gan Kevin O'Neill, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac yn dilyn y cyfarfod cadarnhaol a gynhaliwyd gydag ef yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cytuno i gomisiynu cam cymorth cychwynnol (mae’r ddau lythyr ynghlwm yn yr Atodiad er gwybodaeth – Saesneg yn Unig). I ymgymryd â'r gwaith hwn, bydd cynghorydd allanol yn cynnal adolygiad cwmpasu i roi asesiad trylwyr ac annibynnol i Lywodraeth Cymru a'r arweinydd o'r prif heriau sy'n wynebu'r Cyngor. Bydd hefyd yn cynghori ar y camau sydd angen eu cymryd ar unwaith a'r cymorth pellach sydd ei angen. Bydd canlyniadau'r adolygiad hwn yn cael eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer cynnig cymorth pellach, a phenderfynir ar union fanylion y cymorth hwnnw wedi i drafodaeth gael ei chynnal â'r Cyngor.

Rwyf wedi cytuno hefyd y bydd arweinydd gwleidyddol profiadol yn cydweithio ag aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i feithrin a chryfhau perthnasoedd gweithio ar draws pob grŵp gwleidyddol a rhwng aelodau a swyddogion.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Cyngor i sicrhau ei fod yn gallu bodloni ei uchelgais i wasanaethu pobl Merthyr Tudful yn effeithiol ac effeithlon. Wrth wneud hynny, byddaf yn dibynnu ar ymrwymiad llwyr ac effeithiol holl aelodau a swyddogion y Cyngor er mwyn inni allu cyflawni ein nod cyffredin o sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Cyngor. 

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad wedi i’r unigolion a fydd yn cefnogi'r Cyngor gael eu penodi.