Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 27 Mehefin, a oedd yn cadarnhau fy mod yn bwriadu rhoi cymorth ffurfiol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (y Cyngor) o dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, rwyf mewn sefyllfa erbyn hyn i roi manylion y cymorth a fydd yn cael ei roi i'r Cyngor.

Fel y gwyddoch, bydd y pecyn cymorth a fydd yn cael ei roi i'r Cyngor yn cael ei gyflwyno fesul cam, ac rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi penodi dau gynghorydd profiadol i ddarparu cam cyntaf y cymorth ar fy rhan.

Rwyf wedi penodi Mr John Gilbert, sy'n Brif Weithredwr awdurdod lleol profiadol ac uchel ei barch, i fod yn gynghorydd allanol i mi er mwyn cynnal adolygiad cwmpasu cychwynnol o'r Cyngor. Bydd yr adolygiad yn un cyflym, a bydd yn cwmpasu'r prif heriau sy'n wynebu'r Cyngor. Ar ddiwedd yr adolygiad, bydd Mr Gilbert yn darparu adroddiad a fydd yn nodi ei ganfyddiadau, a bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i bennu camau sydd angen eu cymryd ar unwaith a hefyd i gynnig sylfaen ar gyfer cam nesaf y pecyn cymorth.

Yn ogystal â hynny, mae Ms Kate Allsop, sy'n arweinydd gwleidyddol profiadol, wedi ei benodi yn gynghorydd gwleidyddol i mi. Rwyf wedi penodi Ms Allsop i ddarparu arbenigedd ac i gydweithio â'r aelodau gwleidyddol er mwyn datblygu a chryfhau perthnasoedd gweithio. Ar ddiwedd cam cyntaf y pecyn cymorth, bydd Ms Allsop hefyd yn darparu adroddiad a fydd yn nodi ei ganfyddiadau. 

Mae fy swyddogion yn cadarnhau manylion penodi'r cynghorwyr ar hyn o bryd, a'r gobaith yw y byddant yn gallu ymgymryd â’u swyddi cyn gynted â phosibl.