Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn dilyn y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Ffordd Liniaru’r M4 a’m penderfyniad diweddar i ddileu statws gwarchodedig y coridor, rwyf am roi gwybod i’r aelodau am y gwaith sy’n cael ei wneud i wella’r mesurau ar gyfer gwarchod a rheoli Lefelau Gwent yr oedd y ffordd i fod pasio trwyddynt.
Mae Lefelau Gwent o bwys cenedlaethol oherwydd eu bioamrywiaeth. Maent wedi’u dynodi’n gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) am eu rhwydwaith o ffosydd a chynefinoedd ffen a gwelyau cyrs ac am bresenoldeb rhywogaethau blaenoriaeth. Oherwydd eu datblygiad ers dyddiau’r Rhufeiniaid, maent wedi’u dynodi hefyd yn Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Hefyd, mae eu lleoliad ger dwy ganolfan boblog yn y De yn golygu eu bod yn ased hamddena y mae pobl yr ardal ac ymwelwyr fel ei gilydd yn eu trysori ac yn ymddiddori ynddynt.
Dros y blynyddoedd, oherwydd eu lleoliad, mae datblygiadau adeiladu a seilwaith wedi bygwth llyncu tir Lefelau Gwent ac mae llygredd aer, dŵr a phridd ynghyd â lledaeniad prysgwydd ar hyd llawer o’r ffosydd wedi bod yn erydu’u gwerth.
Fel rhan o’n hymateb cryfach i’r newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau natur, rwy’n awyddus i sicrhau bod ardaloedd fel Lefelau Gwent yn cael eu gwarchod a’u rheoli’n well at y dyfodol. Mae hynny’n gofyn am ragor o weithredu i gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth ac i gryfhau ecosystemau ac am rai penderfyniadau anodd ynghylch lleoli prosiectau ynni adnewyddadwy sydd hefyd yn cael eu denu i dirwedd wastad arfordirol y Lefelau.
Yn sgil ein penderfyniad ynghylch yr M4 yn 2019, ffurfiodd Llywodraeth Cymru Weithgor Lefelau Gwent o dan gadeiryddiaeth John Griffiths AS i ystyried sut i warchod a rheoli’r Lefelau’n well. Mae’r Gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill. Y mae wedi cyfarfod deirgwaith ac mae wrthi’n llunio Cynllun Gweithredu Strategol i fynd â’i waith yn ei flaen.
Mae’r gweithgor wedi nodi’r prif flaenoriaethau isod:
- Sicrhau bod y gwaith rhagorol y mae’r Bartneriaeth Lefelau Byw yn ei wneud i adfer cynefinoedd ac ennyn diddordeb perchenogion tir a’r cyhoedd trwy brosiect o dan arweiniad yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent gydag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn parhau. Mae’r arian yn dod i ben ym mis Mawrth 2022 ac mae’r Bartneriaeth wedi penodi ymgynghorydd i’w helpu i drefnu olynydd i’r prosiect Lefelau Byw. Bydd hynny’n cynnwys adolygiad o’r partneriaid presennol a phosibl, gweledigaeth hyd at 2050 a chynllun gweithredu 5 mlynedd yn ogystal â chyngor ar fodelau ariannu a llywodraethu. Bydd fersiwn ddrafft ar gael erbyn canol mis Medi a chynllun terfynol ddechrau mis Rhagfyr.
- Arweiniad cynllunio ychwanegol i’r tri awdurdod lleol dan sylw i sicrhau bod y datblygiadau iawn yn cael eu lleoli yn y mannau iawn ac i osgoi rhagor o effeithiau annerbyniol ar fioamrywiaeth a thirweddau Lefelau Gwent. Mae Polisi 9 yn Cymru’r Dyfodol yn annog Awdurdodau Cynllunio Lleol i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys CNC, i ddatblygu polisïau ar gyfer ardaloedd allweddol ac mae Cymru’r Dyfodol wedi nodi Lefelau Gwent fel un o’r naw Ardal Adnoddau Naturiol Genedlaethol. Mae hynny’n golygu bod angen tystiolaeth well am effeithiau cymharol gwahanol fathau o ddatblygiad ar nodweddion y Lefelau. Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal hwn fel peilot ar gyfer Ardaloedd Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a Pholisi 9 Cymru’r Dyfodol.
- Adnewyddu ac ehangu cwmpas Cytundebau Rheoli Tir sy’n erfyn allweddol i berchenogion a rheolwyr tir allu cynnal gwaith rheoli pwysig ar gynefinoedd i gynnal a gwella bioamrywiaeth mewn SoDdGAau. I’r perwyl hwnnw, rhaid i CNC drafod telerau â rheolwyr tir fel ffermwyr, a’u talu. Mae hyn yn fater drud. I brysuro’r broses ac adfer mwy o’n SoDdGAau i gyflwr boddhaol, mae Llywodraeth Cymru newydd neilltuo £2.75M i CNC i gynyddu ei waith yn y maes. Bydd yn cynnwys Lefelau Gwent.
Mae hwn yn fy marn i yn fodel pwerus iawn o’r ffordd y gall rhanddeiliaid weithredu ar y cyd mewn ardaloedd fel Lefelau Gwent ac rwy’n awyddus hefyd i ymuno â John Griffiths AS yn un o gyfarfodydd y Gweithgor i gwrdd â’i aelodau a dysgu mwy am eu gwaith. Hoffwn ofyn i aelodau’r Senedd feddwl a oes ardaloedd eraill a allai elwa o ddilyn trefn debyg.
Mae ein gwaith yn Lefelau Gwent yn un rhan fach o ymateb ehangach i’r newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau natur yng Nghymru. Ddiwedd 2020, aethom ati gyda’n partneriaid i ddiweddaru Cynllun Adfer Natur Cymru i ystyried y dystiolaeth gynyddol o faint y dirywiad yn ein bioamrywiaeth a’r difrod i’n hecosystemau.
Ei nod yw datblygu rhwydweithiau ecolegol cryf ar draws ein tirweddau a’n môr i warchod rhywogaethau a chynefinoedd a’r buddiannau y maen nhw’n eu rhoi i ni, mynd i’r afael â sail y dirywiad yn ein bioamrywiaeth a thargedu gwaith i helpu rhywogaethau i ymadfer. Caiff y Cynllun Adfer ei adolygu i ystyried y fframwaith byd-eang newydd ar gyfer bioamrywiaeth pan gytunir arno yn COP15 nes ymlaen eleni. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi blaenoriaethau’r Cynllun Adfer ar waith trwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur newydd, y Goedwig Genedlaethol a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawnogydd. Rydym hefyd yn cefnogi gwaith penodol i ddiogelu rhywogaethau sydd o dan fygythiad trwy gydariannu’r prosiect Natur am Byth.
Trwy ein Cronfa Rhwydweithiau Natur gwerth £9.8m, ar y cyd â Chronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym yn gwella cyflwr, cysylltedd a chydnerthedd safleoedd gwarchodedig ar dir a môr Cymru. Bydd hynny’n eu galluogi i weithio’n well fel calon y rhwydweithiau natur ac fel ardaloedd hanfodol o gryfder ecolegol lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu a chynyddu. Mae rhan o’r arian wedi’i neilltuo i helpu cymunedau i gymryd rhan trwy er enghraifft, ddenu rhagor a mwy o amrywiaeth o wirfoddolwyr a chynnal prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd.
O gofio’r anawsterau sy’n gysylltiedig â chynnal rhaglenni cyfalaf unflwydd, rydym wrthi hefyd yn datblygu Rhaglen Amlflwydd ar gyfer ein safleoedd gwarchodedig. Bydd hynny’n ffordd i flaenoriaethu adnoddau prin a datblygu prosiectau hanfodol mwy tymor byr fel rhan o raglen gydlynol tymor hwy ar gyfer ein safleoedd gwarchodedig. Mae CNC wedi rhoi contract i ADAS gynnal y gwaith hwn a bydd yn cyhoeddi adroddiad terfynol erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae adfer natur a lliniaru effeithiau newid hinsawdd yn flaenoriaethau hollbwysig i’r Llywodraeth hon. Roedd hynny i’w weld yn ein penderfyniad ar Ffordd Liniaru’r M4 a bydd hynny’n parhau trwy ein gwaith ar Lefelau Gwent a ledled Cymru. Mae gan bob adran yn y llywodraeth, pob sector yn ein heconomi a phob cymuned yng Nghymru ei rhan i’w chwarae wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd a natur. Gobeithio y bydd aelodau’r Senedd yn croesawu’r gwaith sydd wedi’i wneud i warchod a chyfoethogi Lefelau Gwent ac yn ein cefnogi i ehangu’r ffordd hon o weithio i ddiogelu treftadaeth naturiol gyfoethog Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.