Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r manylion ynghylch sut y bydd gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg yn cyfrannu at y gwaith o wireddu ein gweledigaeth o sicrhau newid ar draws y system gyfan, er mwyn canolbwyntio ar iechyd a llesiant, ac atal afiechyd fel rhan hanfodol o'n ffordd o ddarparu gofal, fel y nodir yn ‘Cymru Iachach’
https://gov.wales/topics/health/professionals/dental/?skip=1&lang=cy
Mae'r trywydd yr ydym yn ei ddilyn ym maes deintyddiaeth yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus a'r ymrwymiadau a wnaed yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, i sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn helpu pobl Cymru i fyw eu bywydau mewn modd iach a ffyniannus.
Mae ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg i Cymru Iachach yn dod o Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg 2013-18. Mae'r cynllun hwn wedi llwyddo’n sylweddol yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf i wella a chynnal iechyd y geg a llesiant pobl yng Nghymru, ond serch hynny, mae'r heriau'n parhau ac mae rhagor i'w wneud.
Mae iechyd y geg da yn rhan bwysig o lesiant pobl. Yn achos plant, mae'n cyfrannu at ddatblygiad corfforol, addysgol, a chymdeithasol. Yn achos oedolion, mae iechyd y geg da yn golygu bod pobl yn cymryd llai o amser i ffwrdd o'u gwaith oherwydd y ddannodd, a bod ansawdd eu bywyd yn well gan eu bod yn gallu bwyta a siarad heb fod hynny'n achosi poen nac embaras. O ganlyniad i'r rhaglen Cynllun Gwên, mae iechyd y geg ymysg plant ifanc yng Nghymru yn gwella ar draws yr holl grwpiau cymdeithasol. Plant sy'n mynychu ysgolion yn yr ardaloedd lle mae'r amddifadedd gwaethaf sy'n gweld y gwelliannau mwyaf o ran iechyd y geg.
Rydym yn awyddus i barhau i ddatblygu gwasanaethau iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol, er mwyn llesiant yr unigolyn a llesiant pawb, a fydd yn gallu bodloni anghenion heddiw ac yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal.
Mae ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg i Cymru Iachach yn seiliedig ar yr egwyddor bod cleifion a'r cyhoedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Mae'r gwasanaethau'n cael eu nodi o dan dair thema, sef: camu i lefel arall ym maes atal; gwasanaethau deintyddol sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol; a datblygu timau a rhwydweithiau deintyddol. Mae'r themâu hyn yn berthnasol i bawb sy'n gweithio ym maes deintyddiaeth, waeth beth yw eu rôl neu'r math o leoliad y maent yn gweithio ynddo.
Mae'r ymateb hefyd yn berthnasol i weithredwyr Byrddau Iechyd, timau contractio Gofal Sylfaenol a gwasanaethau deintyddol, arweinwyr clinigol ym maes deintyddiaeth, arbenigwyr, academyddion, ymarferwyr cyffredinol, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol - a hefyd i bractisau deintyddol, ysbytai, a gwasanaethau a rhaglenni cymunedol.
Rydym wedi nodi pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer 2018-21 ac ar ôl hynny, o ran trawsnewid deintyddiaeth:
- mynediad amserol at ofal deintyddol ataliol y GIG;
- newid y system gyfan a chynnal y newidiadau hynny, yn seiliedig ar ddiwygio contractau;
- timau sydd wedi eu hyfforddi a'u cynorthwyo i ddarparu gofal safonol sy'n seiliedig ar werth.
- gwella'r system yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth am iechyd y geg; a
- gwella iechyd a llesiant y boblogaeth.
Dyma flaenoriaethau uchelgeisiol sy'n adlewyrchu newidiadau mewn cyfeiriad polisi, ac sy'n cynorthwyo'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a diwygio contractau deintyddol drwy newid y system.
Bydd angen newid os ydym am gyflawni'r blaenoriaethau hyn, ac mae bwrw ymlaen â'r gwaith o ddiwygio contractau yn rhan hanfodol o'r newid hwnnw. Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yn cymryd rhan yn y rhaglen diwygio contractau deintyddol, ac mae 22 o bractisau deintyddol (rhyw 5% o'r cyfanswm ar draws Cymru gyfan) yn casglu ac yn defnyddio asesiadau o anghenion a risg clinigol mewn perthynas ag iechyd y geg er mwyn iddynt allu cynllunio gofal, darparu cyngor ataliol sydd wedi ei deilwra ar gyfer yr unigolyn, a chytuno ar y cyfnodau rhwng apwyntiadau rheolaidd a fyddai fwyaf addas i fodloni anghenion yr unigolyn. Rwy'n awyddus i weld y rhaglen ar gyfer diwygio gwasanaethau deintyddol yn camu yn ei blaen, a disgwylir i'r byrddau iechyd sicrhau bod o leiaf 10% o bractisau deintyddol yn eu hardaloedd yn cymryd rhan ynddi o fis Hydref 2018 ymlaen.
Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am hynt y rhaglen diwygio gwasanaethau deintyddol yn nes ymlaen yn y flwyddyn.