Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 11 Mawrth eleni, cyhoeddais fy mwriad i gychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yng Nghymru yn ddiweddarach eleni ar 29 Medi.

Mae effaith Covid-19 wedi’i gwneud yn angenrheidiol i bob un ohonom ailflaenoriaethu ein busnes i adlewyrchu natur ddigynsail yr argyfwng, ond rwyf bellach yn gallu cadarnhau y bydd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cychwyn yn ystod tymor y Senedd hon, a’r dyddiad y daw i rym fydd 31 Mawrth 2021.

Mae ein cymunedau yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Bydd pob un ohonom yn ymwybodol fod rhai grwpiau'n cael eu heffeithio'n fwy nag eraill, gan gynnwys rhai sydd eisoes yn profi anghydraddoldebau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol.

Bydd cychwyn y Ddyletswydd yn fecanwaith allweddol ar gyfer cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac yn rhywbeth a fydd yn eithriadol o bwysig wrth inni barhau i ymateb i Covid-19.

Er mwyn cynorthwyo cyrff cyhoeddus perthnasol i baratoi ar gyfer cychwyn y ddyletswydd yn y dyfodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau anstatudol ar 1 Ebrill, yn ogystal â dogfennaeth ychwanegol, yn benodol taflen ffeithiau a dogfen 'cwestiynau cyffredin '. Gellir gweld y rhain i gyd yma - https://llyw.cymru/y-ddyletswydd-economaidd-gymdeithasol.

 Mae'r canllawiau wedi'u llywio gan adborth a gafwyd drwy'r ymgynghoriad a'r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ledled Cymru. Fe'u lluniwyd ar y cyd â chynrychiolwyr y cyrff y disgwylir iddynt gael eu heffeithio gan y ddyletswydd, a’r TUC, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.