Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (CIAL) yn borth hanfodol i Gymru ar gyfer busnes, twristiaid a theithwyr cyffredinol fel ei gilydd. Mae'n hanfodol i ddatblygiad economaidd Cymru fod gennym gysylltiadau rhyngwladol ar gyfer teithio i Gymru ac oddi yma, yn ogystal â drws agored croesawgar ar gyfer twristiaid.
Yn 2013 prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd fel ychwanegiad strategol at seilwaith trafnidiaeth Cymru, ac i sicrhau ei ddyfodol ar ôl cyfnod estynedig o ddirywiad masnachol a datblygu gwasanaethau o ansawdd uchel a llwybrau ychwanegol i deithwyr.
O dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r maes awyr wedi cael ei weithredu hyd braich ar sail fasnachol a, hyd at 12 mis yn ôl, roedd wedi gweld ei sefyllfa’n gwella’n sylweddol. Yn ôl ffigurau gan yr Awdurdod Hedfan Sifil, ers 2013 roedd nifer y teithwyr Maes Awyr Caerdydd wedi cynyddu dros 50 y cant.
Yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, mae COVID-19 wedi cael effaith drychinebus ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym wedi sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i gynnal gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'r Diwydiant Hedfanaeth wedi dioddef ergyd drom iawn yn fyd-eang, ac mae bron pob taith i deithwyr wedi cael ei ganslo, mae meysydd awyr yn wag ac mae fflydoedd cyfan heb adael y llawr. Mae Maes Awyr Caerdydd wedi teimlo’r effeithiau yn yr un modd â phob maes awyr arall ledled y byd.
Er enghraifft, yr wythnos diwethaf cofnododd Maes Awyr Heathrow golled o £2 biliwn ar gyfer y flwyddyn, ar ôl i nifer y teithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws ostwng i lefelau na welwyd mohonynt ers y 1970au.
Mae disgwyl i bandemig COVID-19 effeithio ar y Diwydiant Hedfanaeth am sawl blwyddyn i ddod.
Ym mis Tachwedd 2020, dangosodd rhagolygon Standard & Poor’s (S&P) na fydd traffig awyr byd-eang yn dychwelyd i lefelau cyn COVID-19 yn ystod y cyfnod 2021 – 2023. Yn eu hamcanestyniadau, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, nododd S&P y disgwylir i draffig awyr yn 2023 fod yn 12.5% yn is na lefelau 2019.
O ganlyniad i bandemig COVID-19, mae'r Cyngor Meysydd Awyr Rhyngwladol (ACI) a'r Gymdeithas Gweithredwyr Meysydd Awyr (AOA) wedi diweddaru eu hamcanestyniadau tymor canolig ar gyfer nifer y teithwyr ym mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021. Mae'r amcanestyniadau a gyhoeddwyd gan yr AOA ym mis Chwefror 2021 yn cadarnhau bod y cyfyngiadau teithio estynedig yn arwain at adferiad arafach, gyda'r AOA yn rhagweld llwybr arafach at adfer yn y DU o'i gymharu ag amcanestyniadau byd-eang yr ACI.
Gostyngodd traffig awyr byd-eang i'w lefel isaf ers 17 mlynedd yn 2020: Gostyngodd nifer y teithwyr o 4.5 biliwn yn 2019 i 1.8 biliwn y llynedd gyda chwmnïau awyrennau'n colli cyfanswm o £270 biliwn oherwydd COVID. Mae adroddiad gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn dangos mai’r gostyngiad a welodd Maes Awyr Caerdydd o 87% dros y flwyddyn diwethaf yn fwy na’r hyn a welwyd gan unrhyw faes awyr arall yn y DU.
Y flaenoriaeth i bob maes awyr ledled y byd, gan gynnwys Caerdydd, yw adfer, sicrhau cynaliadwyedd ac, yn y pen draw, gweld twf.
Ym mis Mawrth diwethaf gwnaethom benderfynu parhau i gadw ein maes awyr ar agor, i gefnogi cludo nwyddau a logisteg yn ystod y pandemig – roedd hyn hefyd yn sicrhau bod llawer o’r cyfarpar diogelu personol hanfodol yn cyrraedd y GIG yng Nghymru. Mae'r Bwrdd a'r tîm rheoli yn CIAL wedi bod yn gweithio'n galed i leihau costau cymaint â phosibl ac i greu ffynonellau refeniw newydd.
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi rhoi'r rhan fwyaf o'u staff ar absenoldeb ffyrlo drwy gynllun Llywodraeth y DU, er mwyn lleihau costau ar gyfer y busnes cymaint ag y bo modd.
Yn ogystal, ar y dechrau rhoddodd Maes Awyr Caerdydd tua 60 o staff ar gontract i ddarparu gwasanaethau canolfan gyswllt i gynorthwyo cyfleusterau profi ac olrhain Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod â maes awyr cenedlaethol ar gyfer y dyfodol sy’n gallu ategu ein heconomi fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu pecyn cymorth COVID newydd ar gyfer meysydd awyr gwerth £100 miliwn ar gyfer meysydd awyr yn Lloegr yn unig. Bydd Gogledd Iwerddon yn rhoi £10 miliwn o gyllid ar gyfer Meysydd Awyr Belfast, yn ogystal ag ystyried cymorth ar gyfer meysydd awyr rhanbarthol eraill fel rhan o'u cynllun rhyddhad ardrethi gwerth £150 miliwn. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo, o dan reolau cymorth gwladwriaethol yr UE, gynllun cymorth gwerth £17 miliwn GDP (tuag €20 miliwn) yn y DU i ddigolledu meysydd awyr yr Alban am eu colledion o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws. Bydd Llywodraeth yr Alban yn rhoi £17 miliwn i Feysydd Awyr yr Alban i'w helpu yn ystod y cyfnod hwn.
Rwy’n disgwyl i Lywodraeth y DU adolygu ei pholisi Hedfanaeth i adlewyrchu'r sefyllfa eithriadol yr ydym ynddi ar hyn o bryd, ac i greu ac ariannu pecyn cymorth sylweddol sy’n gallu helpu gyda chostau rheoleiddiol ac ariannol meysydd awyr rhanbarthol hanfodol fel Caerdydd. Fodd bynnag, er gwaethaf y galwadau hyn ar Lywodraeth y DU, nid yw Maes Awyr Caerdydd wedi cael unrhyw gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i sicrhau ei hyfywedd yn y tymor canolig a’r hirdymor. Fel y cyfranddaliwr, ac yn cydnabod pwysigrwydd y seilwaith allweddol hwn, rydym wedi penderfynu cymryd camau pendant yn awr – byddai oedi yn golygu colli'r maes awyr a'n buddsoddiad cyfan
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar becyn ariannol i roi cymorth i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (CIAL) yn y tymor canolig, yn erbyn cynllun pum mlynedd ar gyfer achub ac ailstrwythuro'r maes awyr. Mae’r pecyn cymorth busnes hwn gan y Llywodraeth yn bodloni telerau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU â’r UE, yn enwedig y darpariaethau sy'n ymwneud â chymorthdaliadau at ddibenion achub ac ailstrwythuro. Rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad drwy grant o hyd at £42.6 miliwn, a roddir i alluogi Maes Awyr Caerdydd i ailstrwythuro ei weithrediadau, a sicrhau ei hyfywedd hirdymor.
Ar wahân i hynny, fel unig gyfranddalwyr Maes Awyr Caerdydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad ar sail fasnachol yn unig i ddileu £42.6 miliwn o ddyled y maes awyr. Mae'r penderfyniad hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd o adennill y benthyciadau mae Llywodraeth Cymru wedi’u buddsoddi, ac yn rhoi'r opsiwn cost oes isaf. Mae'n rhoi'r ffordd orau i Weinidogion Cymru ar gyfer symud ymlaen fel unig gyfranddalwyr y maes awyr o safbwynt masnachol.
Rydym hefyd yn lleihau gwerth yr ecwiti ar yr adeg hon fel cam doeth i adlewyrchu colli gwerth o ganlyniad i COVID, cyfanswm o £46.3 miliwn. Rwy’n hyderus mai cymryd y camau hyn yw’r ffordd orau o ddiogelu gwerth y buddsoddi cyhoeddus yn y maes awyr, a sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Bydd perfformiad Maes Awyr Caerdydd yn cael ei fonitro yn erbyn ei gynllun ailstrwythuro, a bydd perfformiad yn cael ei reoli'n rheolaidd er mwyn gwerthuso a diogelu ein buddsoddi parhaus.
Mae'r pecyn buddsoddi hwn yn helpu i ddiogelu swyddi ac yn cadw cysylltiadau mewn ardal o’r DU lle, ochr yn ochr â’n rhaglen gyffrous newydd ar gyfer y Metro, rydym am adeiladu seilwaith o ansawdd uchel i ategu’r economi. Bydd yr arian hwn yn helpu i gynnal hyd at 5,200 o swyddi anuniongyrchol drwy weithgareddau economaidd cwmnïau ar safle’r maes awyr, a’r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi ehangach, ar adeg pan ydym yn gwybod bod angen cymorth ar y sector Hedfanaeth.
Mae gwasanaethau Wizz newydd sydd wedi cael eu cyhoeddi yn newyddion i'w groesawu, ac yn gam cadarnhaol a fydd yn helpu Maes Awyr Caerdydd i adfer o effeithiau pandemig COVID-19. Bydd y gwasanaethau'n cynyddu'r dewis i deithwyr, yn creu swyddi ac yn ychwanegu at fanteision economaidd y maes awyr, ac edrychaf ymlaen at weld y naw llwybr newydd a fydd ar gael yn y misoedd nesaf.
Mae adeiladu economi a system drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol yn golygu gweithredu nawr i ategu ein seilwaith a'n hasedau hanfodol, cenedlaethol yn ystod cyfnod anodd ac eithriadol COVID . Yn yr un modd ag y mae wedi cefnogi gwasanaethau hanfodol eraill yn ystod y pandemig hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant – yn yr achos hwn i helpu i sicrhau Maes Awyr Caerdydd a sicrhau y gall gyfrannu at ein hadferiad.
Byddaf yn hysbysu’r Senedd am ddatblygiadau ym Maes Awyr Caerdydd, a byddaf yn hapus i ateb cwestiynau gan aelodau yn ystod fy sesiwn gwestiynau y prynhawn yma.