Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Covid-19 wedi cael effaith sydyn a sylweddol ar bron pob busnes a chadwyn gyflenwi yn y sector bwyd a diod, beth bynnag eu maint. Erbyn hyn, mae busnesau unigol yn wynebu her aruthrol i’w parhad. Mae effaith y pandemig yn fygythiad i lwyddiant ein sector.

I gefnogi’r sector, rwyf wedi mynd ati, ar  y cyd â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, i ddatblygu camau gweithredu a fydd yn cael blaenoriaeth. Rwy’n falch o gael eu cyhoeddi heddiw. 

Y camau hyn yw’r rhai y byddwn ni a’r Bwrdd yn canolbwyntio arnynt yn y tymor byr, a byddant yn caniatáu inni dargedu’r cymorth i’r sector rhwng y misoedd sydd i ddod a’r haf nesaf. Am y tro, y flaenoriaeth yw parhad y sector, ond rhaid inni hefyd ei helpu i ymadfer.

Mae gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru nodau hirdymor. Yn 2020, byddwn yn cwblhau’r camau yn ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’, y cynllun gweithredu a luniwyd gennym yn 2014 ac sydd wedi bwrw ymlaen â strategaeth a bennwyd yn 2010. Roeddwn yn falch o gael cyhoeddi ddechrau’r flwyddyn fod Tuag at Ddyfodol Cynaliadwy wedi cyrraedd ei darged ar gyfer y sector bwyd a ffermio, sef gwerthiant o £7 biliwn erbyn 2020, drwy lwyddo i sicrhau gwerthiant o £7.473 biliwn. Rydym, er hynny, wedi cyflawni llawer mwy na thwf ariannol yn unig. Mae gan y sector broffil uwch erbyn hyn, mae’n allforio mwy, mae’n fwy cynaliadwy ac mae gennym rwydweithiau a chlystyrau cryfach yn ein cadwyni gyflenwi. Yn 2019, buom yn ymgynghori’n eang ar gynigion ar gyfer strategaeth newydd. Cafodd y cynigion hynny groeso eang a byddwn yn dychwelyd at y gwaith hwnnw yn ystod y misoedd sydd i ddod. Bydd y ddogfen yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw yn bont rhwng Tuag at Ddyfodol Cynaliadwy a’r strategaeth newydd. Er bod heriau’n ein hwynebu ar hyn o bryd, mae’n bwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y tymor hir ac ar ailadeiladu at y dyfodol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.