Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ddiwedd mis Rhagfyr cyhoeddais ddatganiadau am y £120m o gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae Omicron yn effeithio arnynt, gallaf gadarnhau yn awr y bydd y cyllid hefyd ar gael i fusnesau sydd newydd eu sefydlu yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen cefnogi'r rhai a ddechreuodd fusnes newydd yn ystod misoedd yr haf.

Bydd y cyllid yn cynnig achubiaeth bosibl i'r rhai sydd wedi sefydlu eu busnes yn ddiweddar ac yn eu helpu i barhau i fasnachu drwy'r cyfnod rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 er gwaethaf lledaeniad Omicron.

Er mwyn bod yn gymwys rhaid i fusnesau fod yn masnachu ar neu cyn 1 Medi 2021.  

Mae gwiriwr cymhwysedd ar gyfer elfen y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) o'r cyllid ar gael ar wefan Busnes Cymru. Mae'r gwiriwr i'w weld yn Offeryn Cymorth Argyfwng COVID-19 | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Bydd y broses gofrestru ar gyfer y grantiau ardrethi annomestig a ddarperir gan awdurdodau lleol yn agor ar 13 Ionawr 2022 a'r broses ymgeisio ar gyfer yr awdurdod lleol yn darparu cyllid dewisol, yn ogystal â'r Gronfa Cadernid Economaidd yn agor yr wythnos ganlynol. Bydd y taliadau'n dechrau o fewn dyddiau i agor.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.