Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cymorth ardrethi annomestig ychwanegol gwerth mwy na £460m dros y ddwy flwyddyn ariannol nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau sydd ar fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn sgil y cyd-destun economaidd presennol, gan gynnwys chwyddiant uchel. Mae'r pwysau hynny hefyd yn cael eu teimlo gan y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Gwasanaethau yw’r rhain sy’n ddibynnol eu hunain ar y refeniw a godir drwy drethi lleol. Rydym wedi penderfynu rhewi'r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2023-24, ar gost o fwy na £200m dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd dadl ar y Rheoliadau i rewi'r lluosydd yn cael ei threfnu yn y flwyddyn newydd.
Bydd y rhestr ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn dilyn ymarfer ailbrisio. Darperir rhyddhad ardrethi trosiannol gan Lywodraeth Cymru i bob trethdalwr y mae ei atebolrwydd treth, o ganlyniad i’r ailbrisio, yn cynyddu o fwy na £300. Bydd unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd i dalu ardrethi annomestig o ganlyniad i’r ailbrisio yn cael ei gyflwyno'n raddol dros ddwy flynedd. Bydd trethdalwyr yn talu 33% o'u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd eu hatebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26). Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £113m dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad hwn, gan gefnogi pob maes o'r sylfaen drethu drwy gynllun trosiannol cyson a syml.
Rwyf wedi gosod drafft o Reoliadau Ardrethi Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 gerbron y Senedd. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2022 ac yn darparu ar gyfer rhyddhad trosiannol o 1 Ebrill 2023.
At hynny, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu dros £140m o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Bydd trethdalwyr cymwys yn derbyn rhyddhad ardrethi annomestig o 75% drwy gydol 2023-24. Fel y cynllun tebyg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd cap o £110,000 ar y cymorth y caiff pob busnes ei hawlio ar gyfer ei weithgarwch ar draws Cymru o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru. Mae ein dull gweithredu yn golygu y bydd busnesau yng Nghymru yn cael cymorth tebyg i'r hyn a ddarperir mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae'r pecyn cymorth hael gwerth £460m hwn yn cael ei gynnig yn ychwanegol i'n cynlluniau rhyddhad parhaol a ariennir yn llawn sy'n darparu dros £240m o ryddhad i fusnesau a threthdalwyr eraill bob blwyddyn. Rydym yn parhau yn gwbl ymroddedig i gefnogi busnesau i adfer o effeithiau'r pandemig a'r heriau economaidd presennol, er mwyn iddynt ffynnu yn y dyfodol.