Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Rwy’n falch o gael cyhoeddi y bydd y rhaglen Cymru gyfan newydd “Cymhwyster Cenedlaethol Meistr mewn Addysg” ar gael i’w addysgu o fis Medi 2021.
Bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi hyd at 500 o weithwyr addysg proffesiynol i wneud y cymhwyster o fis Medi’r flwyddyn nesaf. Byddwn yn targedu cefnogaeth ariannol at ymarferwyr sydd newydd ddechrau ar eu gyrfa (hynny yw, y rhai sydd â 3 i 6 mlynedd o brofiad).
Mae hwn yn ddatblygiad uchelgeisiol a phwysig sy'n cefnogi ein strategaeth recriwtio a chadw a’n dull cenedlaethol o ymdrin â dysgu proffesiynol, ac yn cryfhau'r berthynas rhwng ein sector addysg uwch a'n rhaglen diwygio addysg.
Bydd y Cymhwyster Cenedlaethol Meistr mewn Addysg yn sicrhau bod pob athro/athrawes yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil arloesol a gwella eu harfer proffesiynol.
Rwy’n falch bod prifysgolion drwy’r wlad wedi cydweithio â’i gilydd, a chyda’r Llywodraeth, i ddatblygu’r rhaglen hon i ddiwallu anghenion y gweithlu ac uchelgais Cenhadaeth ein Cenedl.
Dyma’r saith Sefydliad Addysg Uwch sydd wedi ymrwymo i’r rhaglen:
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Prifysgol Bangor
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i gyfrannu yn ein strategaeth ymchwil addysg, ac rydym yn parhau i gydweithio â nhw fel y gallant hwythau hefyd fanteisio ar y cyfle hwn.
Mae’r cydweithio cenedlaethol hwn, a fydd yn parhau i godi safonau ysgolion, yn dangos ymdeimlad cryf o genhadaeth ddinesig gan ein sector addysg uwch. Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth gennyf ers tro ac rwy’n croesawu’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn, ac yn ffyddiog y bydd yn mynd o nerth i nerth.