Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Pan gyhoeddais gynigion y Gyllideb ddrafft cyn y Nadolig, dywedais fy mod yn bwriadu adeiladu ar y pecyn cychwynnol o gymorth ar gyfer Covid yn y Gyllideb derfynol. Wrth bennu manylion terfynol ein cynlluniau gwario, rwyf yn dyrannu £682.2m yn ychwanegol i ddarparu sicrwydd ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n rhan mor flaenllaw o'n hymateb i'r pandemig. Yn ogystal, rwyf yn cyhoeddi pecyn cyfalaf gwerth £224.5m a fydd yn sbardun pwysig i swyddi a'r economi dros y misoedd nesaf.
Mae dogfennau'r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru:
- Cynnig y Gyllideb Flynyddol;
- Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (tablau BEL); a
- Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol.
Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, hefyd ar gael:
- Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru 2021;
- Diweddariad ar Lif prosiectau'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru 2021;
- Tuag at Asesiad Nwyon Tŷ Gwydr o Gyllideb Llywodraeth Cymru: Canlyniadau Darluniadol ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22 (Prifysgol Caerdydd)
Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach ar 3 Mawrth yn nodi goblygiadau Cyllideb y DU i Gymru.