Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru wedi wynebu nifer o heriau o ganlyniad i Covid-19. Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu cyfleoedd gofal plant a chwarae o’r radd flaenaf i’n plant a’n pobl ifanc, gan sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau hanfodol hyn.

Rwy’n cydnabod yn llwyr bod rhai darparwyr yn parhau i wynebu nifer o’r heriau a achoswyd gan Covid-19, felly rwy’n falch o gyhoeddi fy mod yn sicrhau £5.1 miliwn arall y flwyddyn ariannol hon i roi rhagor o gymorth i’r sector gofal plant a gwaith chwarae.

Bydd £3.5 miliwn o’r cyllid hwn yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol drwy’r Grant Plant a Chymunedau. Bydd ar gael i helpu gydag effeithiau tymor byr yr argyfwng iechyd ar wasanaethau. Dylai hyn helpu i sicrhau y gall darparwyr barhau i weithredu wrth iddynt geisio adfer o effeithiau Covid-19, neu addasu i ddiwallu anghenion teuluoedd yn y dyfodol. Bydd pob awdurdod lleol yn penderfynu sut i ddyrannu’r arian hwn, yn unol â blaenoriaethau yn yr ardal.

Ynghyd â hyn, rwyf hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i’n hawdurdodau lleol i’w helpu â chyfrifoldebau statudol mewn perthynas â gofal plant a gwaith chwarae, ac i’r chwe chorff ambarél sy’n cynrychioli’r sector gofal plant a gwaith chwarae.

Mae hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru gynnal Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant bob 5 mlynedd, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol, gan ddarparu trosolwg cynhwysfawr o’r cyflenwad gofal plant a’r galw amdano ar lefel leol. Mae hi hefyd yn ofynnol iddynt gynnal Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae bob tair blynedd, gan ddarparu trosolwg cynhwysfawr o’r cyfleoedd chwarae yn eu hardal. Mae’r ddau asesiad i’w cyflwyno yn 2022, ac rwy’n falch o allu darparu £440,000 fel rhan o’r pecyn cyflawn hwn tuag at gostau cynnal yr asesiadau pwysig hyn.

Yn awr, yn fwy nag erioed, rhaid inni ganfod pob ffordd bosibl o lunio darlun cywir o’r ddarpariaeth o gyfleoedd gofal plant a chwarae ar lawr gwlad, fel bod ein blaenoriaethau ariannu a pholisi wedi’u targedu’n gywir i sicrhau ein bod yn cefnogi’r math iawn o ofal plant, yn y mannau cywir, ar yr adegau cywir.

Rwy’n darparu £1.25m i’r chwe chorff ambarél ar gyfer y sector gofal plant a gwaith chwarae er mwyn iddo allu parhau i gefnogi darparwyr gwasanaethau ledled Cymru wrth iddynt addasu i effeithiau’r 18 mis diwethaf ac adfer o ganlyniad iddynt. Yn sgil hyn bydd modd iddynt gefnogi lleoliadau unigol, y gweithlu ehangach, a rhoi hwb i ansawdd ein darpariaeth. Mae £1m yn cael ei ddyrannu i Cwlwm, consortiwm y pum corff ambarél ar gyfer gofal plant, ac mae £250k yn cael ei ddyrannu i Chwarae Cymru. Mae hyn yn cynnwys dyraniad i Chwarae Cymru mewn perthynas â’i waith ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn ategu’r cyhoeddiad diweddar ar y cyd gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Cymru i estyn y cynllun rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau bach ar gyfer darparwyr gofal plant cofrestredig am dair blynedd ychwanegol, hyd at 31 Mawrth 2025.

Mae’r ddau ddatganiad yn tanlinellu ein hymrwymiad i ofalu am bobl ifanc Cymru a’u teuluoedd drwy gefnogi cyfleoedd gofal plant a gwaith chwarae a phob un sy’n parhau i weithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaethau hanfodol i deuluoedd.