Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i brisiau ynni barhau i godi ac wrth i bobl ymrafael ag effaith cynnydd mewn chwyddiant ar incwm eu haelwydydd, mae awdurdodau lleol, banciau bwyd a grwpiau cymorth cymunedol ar draws Cymru yn nodi cynnydd yn y nifer sy’n manteisio ar fanciau bwyd a darpariaeth fwyd arall a gynigir o fewn y gymuned. Mewn rhai ardaloedd, mae sefydliadau wedi gweld cynnydd o dros 100% yn y galw am fwyd brys. Ar yr un pryd, o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, mae sefydliadau wedi gweld gostyngiad mewn rhoddion.

Fel rhan o’n hymrwymiad i flaenoriaethu cymorth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, heddiw rwy’n cyhoeddi £1 miliwn arall i fynd i’r afael â thlodi bwyd. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn adeiladu ar y £3.9 miliwn a ddyrannwyd eisoes yn y flwyddyn ariannol hon gan Lywodraeth Cymru i helpu i liniaru tlodi bwyd a mynd i’r afael â gwraidd y broblem.

Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at gyflenwadau digonol. Bydd yn eu galluogi i brynu bwyd, cynnyrch ar gyfer babanod fel llaeth a nwyddau hanfodol eraill fel nwyddau mislif a chynnyrch glanhau a fydd yn helpu i hwyluso a chynnal llesiant, deiet iach ac urddas personol.

Mae modd defnyddio’r cyllid hefyd i gefnogi mentrau fel banciau babanod, banciau dillad a banciau gwisg ysgol. Gellir ei ddefnyddio hefyd i brynu a dosbarthu pecynnau nwyddau a chyfarpar a fydd yn helpu i gadw pobl sy’n agored i niwed yn gynnes y gaeaf hwn.

Gall y cyllid gefnogi mentrau a fydd yn helpu teuluoedd i arbed arian ar fwyd drwy feithrin eu gwybodaeth a’u sgiliau ym maes bwyd, er enghraifft, drwy gyflwyno sesiynau coginio lle darperir bwyd a ryseitiau i aelwydydd yn ogystal ag offer coginio fel coginiwr araf neu sosban bwysedd.

Mae modd defnyddio’r cyllid hefyd i gefnogi camau gweithredu i helpu pobl i wneud i’w hincwm fynd ymhellach a chynyddu’r defnydd o fudd-daliadau fel talebau Cychwyn Iach a mentrau sy’n helpu aelwydydd i dalu biliau hanfodol megis Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru, ein Cynllun Talebau Tanwydd a’n Cynllun Cronfa Wres.

Bydd y £1m ychwanegol yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Dylai sefydliadau a fyddai, o bosibl, yn dymuno elwa ar y cymorth hwn gysylltu â’u hawdurdod lleol i drafod.