Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis-Thomas AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chydag Amgueddfa Cymru i ystyried eu heriau ariannol, mewn ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus ac mewn perthynas â'u gofynion ariannu ar gyfer y dyfodol.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw becyn ariannu newydd o £6.2m ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru ar gyfer 2020-21 a 2021-22.

Ers cyhoeddi adroddiad annibynnol yr Adolygiad Teilwredig ym mis Tachwedd 2020, mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi symud ymlaen yn sylweddol gyda chynllun gweithredu i weithredu ei argymhellion a chynllun strategol newydd. Mae'r momentwm hwn a ffocws manylach ar yr hyn y mae angen ei wneud wedi ein galluogi i ddechrau amlinellu'r cyllidebau angenrheidiol ar gyfer gweithredu. Mae'r cyllid ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn cynnwys cyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol a amlygwyd yn yr adolygiad.

Yr wyf yn benderfynol y defnyddir yr arian hwn i gwrdd ag anawsterau gweithredol uniongyrchol, i gwrdd â diffygion ariannol, i ddiogelu swyddi ac i fynd i'r afael â'r camau difrifol y mae angen eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy y cyrff cenedlaethol hynod bwysig hyn.

Mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn bartneriaid allweddol wrth gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae o ran adfer ac adnewyddu ar ôl Covid-19. Yr wyf hefyd yn awyddus i'w cefnogi gyda'u blaenoriaethau strategol newydd, sydd â phwyslais ar gynaliadwyedd, trawsnewid digidol a rhaglen allgymorth ac ymgysylltu ddyfnach gyda chymunedau Cymru.

Bydd manylion llawn y cyllid yn cael eu cynnwys yn y Gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 a gyhoeddir ar 2 Mawrth. Fodd bynnag, yr wyf yn hyderus y bydd yn bodloni'r diffygion a nodwyd gan y sefydliadau ac y bydd yn cynnwys y lefel gywir o gyllid i helpu i sicrhau dyfodol disglair a chynaliadwy i'r ddau sefydliad diwylliannol cenedlaethol.