Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am archwilio a datblygu adnoddau petrolewm Cymru ar y tir yn dilyn datganoli pwerau yn Neddf Cymru 2017. Cafodd polisi Llywodraeth Cymru ar echdynnu petrolewm ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2018[i]. Mae’r argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol inni gefnu ar danwyddau ffosil cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl – felly, polisi Llywodraeth Cymru yw peidio â rhoi unrhyw drwyddedau newydd. Nid oes unrhyw achos clir sy’n dangos bod cynhyrchu tanwyddau ffosil yn ddomestig yn fuddiol yng nghyd-destun newid hinsawdd pan fydd yn ychwanegu at y cyflenwad byd-eang. Fel un o aelodau sefydlu Beyond Oil and Gas Alliance, rydym yn gweithio’n rhyngwladol i leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, fel sy’n ofynnol i fodloni nodau Cytundeb Paris. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i weinyddu trwyddedau a roddwyd gan Lywodraeth y DU cyn 1 Hydref 2018, yn unol â’r cymalau model wedi’u cynnwys yn y drwydded, y ddeddfwriaeth a’r polisïau perthnasol ac egwyddorion cyffredinol cyfraith cyhoeddus.

Rwyf heddiw yn cyhoeddi ein ymgynghoriad ar y canllawiau technegol anstatudol drafft rydym wedi’u paratoi mewn perthynas â’r gweithgaredd trwyddedu hwn. Mae’r canllawiau wedi cael eu paratoi i helpu deiliaid trwyddedau i reoli trwyddedau presennol. Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar y canllawiau drafft gan ddeiliaid trwyddedau, cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, grwpiau eraill sydd â diddordeb a’r cyhoedd.  

[i]Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad Polisi ar Echdynnu Petrolewm (10 Rhagfyr 2018) | LLYW.CYMRU