Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Yn gynharach eleni, ymrwymais i gyhoeddi'r Fframwaith Monitro Strategaeth Tlodi Plant yr hydref hwn. Rwy'n falch o rannu'r Fframwaith gyda chi heddiw a byddaf yn tynnu sylw at ei gyhoeddi yn ystod fy araith i'r Gynhadledd Tlodi Plant yn ddiweddarach y bore yma.
Mae'r Fframwaith Monitro Strategaeth Tlodi Plant yn un o dri mecanwaith a ddefnyddir i fesur cynnydd ar gyflawni'r Strategaeth Tlodi Plant ac adrodd arno unwaith bob tair blynedd.
- Fframwaith Monitro i adrodd ar ddata lefel cenedlaethol i asesu effaith ymdrechion ar draws y llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc.
- Adroddiad cynnydd polisi a fydd yn adrodd ar dystiolaeth o gynnydd ar draws y llywodraeth ar gyflawni yn erbyn amcanion, blaenoriaethau ac ymrwymiadau'r Strategaeth Tlodi Plant.
- Adroddiad o dystiolaeth gan blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phrofiad bywyd o dlodi. Bwriad hyn yw darparu tystiolaeth a yw ein gwaith ar weithredu'r strategaeth ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid allanol yn cael unrhyw effaith gadarnhaol ar y bobl y bwriedir iddi eu gwasanaethu.
Bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar ddata cadarn a gesglir yn rheolaidd ar lefel poblogaeth ar ystod o ddangosyddion tlodi plant i roi darlun o effaith a thrywydd canlyniadau i blant a phobl ifanc. Credaf y bydd fframwaith sy'n seiliedig ar ystod o fesurau yn ein cefnogi i adlewyrchu'n fanylach effaith ein dull o ymdrin â'r set gymhleth hon o broblemau.
Datblygwyd y Fframwaith Monitro gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddol (KAS) gyda'r Athro Rod Hick, Prifysgol Caerdydd, yn darparu cyngor annibynnol ac adolygiad arbenigol i lywio'r fframwaith terfynol. Hoffwn hefyd ddiolch i’n Grŵp Cyfeirio Allanol ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant am rannu eu barn a’u sylwadau wrth i’r fframwaith gael ei ddatblygu.
Mae'r Fframwaith yn nodi'r parthau, Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol, a'r mesurau cysylltiedig y byddwn yn adrodd tystiolaeth ystadegol ar ein cynnydd yn eu herbyn.
Mae'r fframwaith yn eang, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ganlyniadau cymdeithasol sy'n ymwneud â thlodi plant, amddifadedd a lles.
Darparodd yr Athro Rod Hick her ac arbenigedd pwysig wrth i ni ddatblygu'r Fframwaith Monitro hwn, gan gyfarfod yn rheolaidd â'r tîm a gwneud sylwadau ar fersiynau drafft wrth iddynt gael eu datblygu. Mae'r Athro Hick wedi darparu adroddiad ffurfiol gan gynnwys ei argymhellion terfynol a'i adborth a chyhoeddir hwn ochr yn ochr â'r Fframwaith er tryloywder.
Mae Cerrig Milltir Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn rhan bwysig o fesur cynnydd yn ein gwaith. Yn ogystal â’r Fframwaith Monitro, byddwn yn parhau i adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd o ran cyflawni’r ymrwymiadau a bennwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu a byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad Llesiant Cymru bob blwyddyn. Mae adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys asesiad o’n cynnydd tuag at ein Cerrig Milltir Cenedlaethol.
Bydd y Fframwaith Monitro Strategaeth Tlodi Plant yn cael ei ddiweddaru bob tair blynedd ac yn cael ei ddefnyddio i asesu effaith ymdrechion ar draws y llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant, gan adlewyrchu effaith ein dull gweithredu eang o ran cefnogi plant a lliniaru'r effeithiau y mae tlodi plant yn ei gael ar eu bywydau.
Camau Nesaf
Bydd gwaith i lenwi'r fframwaith gyda'r data diweddaraf sydd ar gael yn 2025 yn cael ei wneud fel rhan o'r adrodd statudol ar gynnydd yn erbyn y Strategaeth Tlodi Plant.