Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Heddiw mae'n bleser gennyf gyhoeddi uchafswm taliadau uniongyrchol o £238 miliwn i ddarparu'r un lefel o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2021, fel y darparwyd yn 2020.
Gwnaed rheoliadau y Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (2020/1556) ar 16 Rhagfyr, sy'n fy ngalluogi i bennu a chyhoeddi cyfanswm uchaf Cymru, a fydd yn rhoi sefydlogrwydd mawr ei angen i'r sector amaethyddol mewn cyfnod cythryblus iawn.
Mae'r gyllideb yn darparu'r un lefel o gyfanswm y taliad o'i gymharu â blwyddyn 2020 y cynllun, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau cysylltiedig. Mae'n ystyried y cyfrifiad BPS symlach newydd ac dileu taliad Gwyrdd ar wahân.
Ar 25 Tachwedd cyhoeddodd y Canghellor y byddai Cymru'n cael £242 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol ym mlwyddyn ariannol 2021/22 i gymryd lle cyllid Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Mae hyn yn golygu bod Cymru £137 miliwn yn brin o'r lefel ariannu yr oeddem yn disgwyl ei chael, ac mae'n creu heriau gwirioneddol wrth fynd i'r afael â'r materion y mae ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu wrth inni adael yr UE a pharhau i ddelio â'r pandemig. Rwyf wedi blaenoriaethu cymorth i ffermwyr o ystyried yr heriau hyn.
Bydd manylion llawn yr holl newidiadau i reolau'r cynllun a gyflwynwyd ar gyfer 2021 yn cael eu darparu drwy Lyfryn Rheolau Cais Sengl 2021, a fydd yn cyhoeddi ym mis Chwefror, gan gynnwys y newidiadau i'r ffordd y caiff gwerthoedd hawliau BPS eu cyfrifo gan ddefnyddio hawliau "honedig" i sicrhau bod y gyllideb a ddyrennir i BPS yn cael ei gwario'n llawn.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.