Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwelodd diwedd y cyfnod pontio newidiadau sylweddol i'n perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, gan roi terfyn ar fynediad di-rwystr i'r Farchnad Sengl, a chymryd rhan yn yr Undeb Tollau. Mae hyn yn golygu bod angen archwiliadau ffisegol bellach ar rai nwyddau sy'n dod i mewn i'r Deyrnas Unedig.

Bydd y drefn arolygu newydd hon yn cynnwys anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid sy'n dod i Gymru o Weriniaeth Iwerddon, a bydd angen i gyfran o unrhyw fewnforion o'r fath fynd drwy Safle Rheoli Ffiniau. Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wiriadau o'r fath ac mae'n ofynnol i ni sicrhau nad yw nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU yn peri risg i iechyd y cyhoedd nac i ledaeniad clefydau anifeiliaid a phlanhigion.

Mae'r drefn arolygu newydd hon yn effeithio'n arbennig ar nwyddau sy'n llifo drwy dri porthladd Fferi Gyrru i Mewn ac Allan Cymru: Caergybi yng Ngogledd Cymru, a phorthladdoedd Penfro ac Abergwaun yn Ne Orllewin Cymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU newidiadau i'r amserlenni sy'n gysylltiedig â gweithredu eu Cynllun Gweithredu'r Ffin ddoe. Er ein bod yn croesawu'r gydnabyddiaeth bod yr amserlen wreiddiol yn rhy heriol, rydym yn parhau i drafod gyda hwy er mwyn sicrhau bod digon o amser yn cael ei roi i addasu i'r amgylchiadau newydd mewn modd effeithiol, gan darfu llai ar fusnesau.

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno, mewn egwyddor, i ariannu'r costau uniongyrchol sy'n gysylltiedig â'r Safleoedd Rheoli Ffiniau mewndirol hyn o ystyried bod hwn yn ofyniad gweithredol newydd o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE. Maent yn fuddsoddiad sylweddol a bydd eu darpariaeth yn y pen draw yn amodol ar dderbyn y cyllid hwn.

Ochr yn ochr â'r ymdrechion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r porthladdoedd a'r Awdurdodau Lleol perthnasol i nodi safleoedd addas ar gyfer lleoliad y seilwaith ffiniau angenrheidiol.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru bellach wedi dewis Plot 9 ar Barc Cybi, yng Nghaergybi, i fod yn lleoliad y Safle Rheoli Ffiniau sy'n gwasanaethu porthladd Caergybi. Rydym yn gweithio'n agos â Chyngor Sir Ynys Môn i'w gwblhau a byddwn yn cynnal ymgynghoriad cynllunio cyhoeddus cyn bo hir fel rhan o broses gynllunio'r Gorchymyn Datblygu Arbennig.

Rydym hefyd yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleuster parhaus ar gyfer Porthladd Caergybi a sydd ar hyn o bryd yn nodi lleoliad addas. Byddant yn parhau i ddefnyddio cyfleusterau cyfredol yn y cyfamser.

Yn Ne-orllewin Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu'r safleoedd sydd ar gael a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach maes o law.