Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Fel Senedd, mae gennym ymrwymiad a rennir i ddatgarboneiddio ac rydym wedi gosod targedau sero-net sy'n dangos sut y gall Cymru arwain y ffordd ar yr her fyd-eang sy'n ein hwynebu. Rhaid i'n huchelgeisiau gael eu llywio gan gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac rwyf wedi ymrwymo i sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes hwn.
Er mwyn gwthio tuag at gyflawni ein nodau, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw wedi dechrau gwaith ymchwil manwl iawn ar ynni adnewyddadwy. Bydd y gwaith ymchwil gan grŵp craidd bach o arbenigwyr o'r sector a'r tu allan i roi mewnbwn a her. Diben yr ymarfer yw nodi'r cyfleoedd sydd gennym yng Nghymru i gynyddu cynhyrchu adnewyddadwy yn sylweddol, ystyried y rhwystrau a'r camau sydd eu hangen i'w goresgyn. Byddwn yn edrych ar gamau tymor byr, canolig a hirdymor, ac wrth wneud hynny byddwn yn canolbwyntio ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru. Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl y grŵp hwn heddiw a gellir ei ddarllen yn Atodiad A.
Rhagwelir y bydd canlyniadau cynnar y trafodaethau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Senedd cyn gwyliau'r Nadolig mewn Datganiad Llafar. Fy mwriad yw y bydd y datganiad hwn yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredu yn nodi'r ffordd orau o oresgyn y materion a nodwyd.
Gwaith Ymchwil Manwl Ynni Adnewyddadwy – Cylch Gorchwyl
Diben
Diben yr ymarfer yw nodi rhwystrau i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn sylweddol a nodi camau i oresgyn y rhwystrau. Byddwn yn edrych ar gamau tymor byr, canolig a hir, ac wrth wneud hynny byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru.
Bydd yr ymchwil manwl yn:
- Ystyried maint y buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd ei angen i gyflawni dyletswyddau statudol Cymru.
- Nodi'r posibilrwydd o berchnogaeth gymunedol o fewn prosiectau cynhyrchu adnewyddadwy'r sector preifat a'r rôl ehangach i gymunedau weithio mewn partneriaeth â datblygwyr yng Nghymru.
- Ystyried sut i gynyddu'r budd i Gymru o ddatblygiadau sy'n eiddo masnachol, lle nad oes perchnogaeth.
- Ystyried maint y cyfle i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a arweinir gan y cyhoedd a'r gymuned yng Nghymru.
- Ystyried sut i gefnogi twf/datblygiad cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd a'r gymuned yng Nghymru
- Herio'r sefyllfa bresennol ar gyfer cyflawni yng Nghymru a nodi camau blaenoriaeth i gefnogi mwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru.
Aelodaeth o'r grŵp
Bydd yr ymchwil manwl yn cynnwys grŵp craidd bach o feddylwyr beirniadol dan arweiniad y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, o'r sector a'r tu allan i roi mewnbwn a her. Bydd y Dirprwy Weinidog yn cadeirio cyfarfodydd, gyda'r ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru. Dewiswyd yr Aelodau ar sail eu harbenigedd a'u profiad unigol; gan na ddylid dirprwyo presenoldeb o'r fath heb gytundeb y Dirprwy Weinidog.
Enw |
Sefydliad |
---|---|
Dr Jenifer Baxter |
Protium Green Solutions |
Pete Capener |
Bath and West Community Energy |
Dr Mike Colechin |
Cultivate Innovation ac Aelod o'r Bwrdd Cynghori Hyblyg |
Dr Jeffrey Hardy |
Coleg Imperial Llundain |
Andrew Jeffreys |
Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru |
Sarah Jennings |
Cyfoeth Naturiol Cymru |
Anthony Kyriakides |
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni |
Hywel Lloyd |
Sefydliad Materion Cymreig |
Dan McCallum |
Awel coop |
Sarah Merrick |
Ripple Energy |
Guy Newey |
Energy Systems Catapult |
Robert Procter |
Ynni Cymunedol Cymru |
Dr Nina Skorupska |
Renewable Energy Association |
Beth Warnock |
Energy Systems Catapult |
Dr Chris Williams |
Clwstwr Diwydiannol De Cymru a Tata Steel |
Dr Mike Jenkins |
Llywodraeth Leol |
Rhys Wyn Jones |
Renewable UK Cymru |
Cefnogir y grŵp gan drafodaethau grŵp â ffocws lle bo angen sy'n cwmpasu pynciau penodol lle mae'r grŵp yn teimlo y byddai arbenigedd a barn ychwanegol yn ychwanegu gwerth. Bydd cwmpas y trafodaethau grŵp â ffocws hyn yn cael eu llunio gan gyfarfodydd cychwynnol y grŵp ymchwil manwl.
Amseru
Bydd yr ymarfer yn dechrau ym mis Hydref gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd (dim mwy na dau yr wythnos) cyn toriad Nadolig y Senedd. Cyhoeddir canlyniadau'r adolygiad mewn Datganiad Gweinidogol cyn toriad y Nadolig.
Gall y grŵp gyfarfod yn achlysurol yn dilyn y datganiad hwn os nodir camau gweithredu sy'n gofyn am waith tymor hwy.
Cyfathrebu
Cynhelir trafodaethau yn y grŵp ar sail Chatham House ac ni fydd unrhyw ohebiaeth am ganlyniad terfynol y trafodaethau oni chytunir yn gyntaf â Llywodraeth Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Cylch Gorchwyl hwn ac yn dosbarthu nodiadau cyfarfodydd i'r grŵp.