Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Datganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC) heddiw. Dyma’r trydydd DPCC sy’n nodi gweledigaeth strategol ar gyfer trefniadau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru a chafodd ei sgrifennu mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid.

Cafodd y DPCC hwn ei ddatblygu yng nghyd-destun Covid-19 a’r ansicrwydd ynghylch effeithiau tymor hir ymadawiad y DU â’r UE. Nawr, yn fwy nag erioed, rhaid inni sicrhau bod gwariant y sector cyhoeddus yn cyfrannu hyd yn oed yn fwy at ganlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol positif. Ni fu erioed bwysicach bod caffael yn gynaliadwy ac effeithiol a bod nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn cael eu darparu’n llwyddiannus.

Gall caffael cyhoeddus fod yn ganolog o ran rhoi blaenoriaethau polisi blaengar ar waith, o ddatgarboneiddio i sicrhau gwerth cymdeithasol, gwaith teg, buddiannau cymunedol, yr economi gylchol a’r economi sylfaen. Mae’r polisïau hyn yn helpu i arafu’r newid yn yr hinsawdd, yn cynnal swyddi a hyfforddiant ac yn helpu’r mwyaf bregus.

Mae gwireddu’r uchelgeisiau hyn yn dibynnu ar broffesiwn caffael sydd â’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen i droi’n hamcanion yn realiti. Rwy’n falch o’r hyn rydym yn ei wneud gyda’n gilydd i wella sgiliau’r proffesiwn a chynyddu cyfleoedd hyfforddi.  

Bydd y DPCC yn ein helpu i ddiffinio’r ffordd ar gyfer gwireddu’r nodau llesiant rydym yn gweithio i’w cyflawni er lles cenedlaethau’r dyfodol, gan wneud Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ganolog i bob penderfyniad caffael, ac yn ein helpu i sicrhau’r ‘Gymru a garem’. Mae gennym oll gyfrifoldeb i sicrhau’n bod yn atal problemau ac yn meddwl am y tymor hir gan gynyddu’r un pryd y cyfleoedd i sicrhau’n lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Yr allwedd i wireddu’r DPCC yw cydweithio. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru’r DPCC yn rheolaidd â’n partneriaid i sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu’n cyd-amcanion ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru. Anelwn hefyd at sicrhau canlyniadau mwy tryloyw.

Bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu cynllun gweithredu ar gyfer rhoi egwyddorion y Datganiad ar waith ac yn ei gyhoeddi ar ein gwefan. Rwy’n gofyn i gyrff prynu, boed ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd, i ddatblygu a chyhoeddi eu cynlluniau gweithredu eu hunain fydd yn esbonio sut y byddant yn helpu i roi blaenoriaethau ar waith ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd canllawiau statudol y Bil Partneriaethau Cymdeithasol yn ystyried y datganiad hwn a’r cynlluniau gweithredu cysylltiedig, gan roi dyletswydd ar awdurdodau contractio i sicrhau canlyniadau sy’n gymdeithasol gyfrifol trwy drefniadau caffael sy’n pwysleisio gwaith teg a gwerth cymdeithasol yn hytrach nag arbedion ariannol yn unig.

Mae’r DPCC ar gael yma: https://llyw.cymru/datganiad-polisi-caffael