Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, rwy’n cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2022-23. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut y byddwn yn parhau i weithredu amcanion strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23.
Mae’r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu’r camau sydd wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith 2021-2026 Cymraeg 2050, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf y llynedd yn ogystal â’n Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio. Mae’n amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn ystod tymor y chweched Senedd er mwyn gweithredu’r ddau brif darged a ganlyn:
- Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
- Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013–15) i 20 y cant erbyn 2050.
Wrth gyhoeddi’r Cynllun hwn ar gyfer 2022-23, rhaid cydnabod bod y byd wedi newid cryn dipyn ers lansio Cymraeg 2050: mae’r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a COVID-19 yn dal yma. Mae hyn oll yn cyflwyno amrywiol heriau i’n hiaith a hefyd nifer o gyfleoedd y byddwn ni am fanteisio arnynt yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu ymateb i’r newidiadau o’n cwmpas ac achub ar bob cyfle newydd wrth weithredu ein strategaeth iaith.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn ymwneud â’r Gymraeg rhwng gwanwyn 2022 a gwanwyn 2023. Pan gaiff y canlyniadau eu cyhoeddi, byddwn yn eu dadansoddi’n fanwl ac yn diweddaru’n taflwybr ystadegol a gyhoeddwyd fel rhan o Cymraeg 2050. Byddwn hefyd yn adolygu’n blaenoriaethau yn ôl y galw. Ond yr un fydd ein nod – gweithio gyda’n gilydd i gyrraedd y miliwn a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.