Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn y cam datblygu diweddaraf, mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi’r cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus i COVID-19 (dolen allanol). Daw hyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig eraill am y cylch gorchwyl cyn ei gyhoeddi. 

Cyn iddo gael ei gyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y cyd i Brif Weinidog y DU i sicrhau y bydd profiadau pobl Cymru’n cael eu hystyried yn briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad ac y bydd tîm yr ymchwiliad yn craffu’n briodol ar y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o’r grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice (Cymru) i drafod yr ymchwiliad a’r cylch gorchwyl. Adlewyrchwyd eu profiadau a’u sylwadau yn uniongyrchol yn ein sylwadau i Brif Weinidog y DU ar y cylch gorchwyl.

Bydd cyfnod o ymgynghori ar y cylch gorchwyl, o dan arweinyddiaeth Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn dechrau maes o law. Hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn y broses hon drwy roi eu hadborth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb ymhellach i’r cyfnod cyhoeddus diweddaraf hwn o’r ymgynghoriad i sicrhau bod profiadau pobl Cymru yn cael eu clywed yn briodol gan yr ymchwiliad.