Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Rwy'n croesawu'r cylch gorchwyl terfynol ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus Covid-19 a chafodd ei gyhoeddi ddoe. Rwyf wedi cael cyfle i roi sylwadau ar y cylch gorchwyl a hoffwn ddiolch i'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus, ac y defnyddiwyd eu barn i lywio gwaith yr ymchwiliad. Mae'r cylch gorchwyl ar gael yma Cylch Gorchwyl Ymchwiliad Covid-19.
Roedd sawl cam i’r broses o ddatblygu’r cylch gorchwyl terfynol ac rwyf wedi cael cyfle i roi sylwadau ar bob cam. Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr Covid-19 Bereaved Families for Justice (Cymru) i drafod yr ymchwiliad a'r cylch gorchwyl. Cafodd eu profiadau a'u sylwadau hwy eu hadlewyrchu’n uniongyrchol yn ein sylwadau ar y cylch gorchwyl.
Drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus, sicrhaodd y Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd yr ymchwiliad, fod pobl Cymru yn cael cyfle i ymgysylltu â gwaith yr Ymchwiliad a rhoi sylwadau arno. Yn bwysig hefyd, clywodd yn uniongyrchol hefyd gan deuluoedd a oedd wedi cael profedigaeth. Rwy'n falch y bydd profiadau pobl Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad ac y bydd tîm yr ymchwiliad yn craffu'n briodol ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Rwy'n fodlon bod y cylch gorchwyl bellach yn sicrhau y bydd yr Ymchwiliad yn ymdrin â'r camau a gymerwyd yng Nghymru ac â’r gydberthynas rhwng y penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar draws y Deyrnas Unedig.
Rwy'n annog pobl Cymru i barhau i ymgysylltu â'r ymchwiliad wrth iddo ymgymryd â'i waith craffu pwysig ar ddigwyddiadau’r pandemig Covid-19.