Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r canllawiau diweddaraf ar y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid. Cyflwynwyd y Fframwaith yn wreiddiol i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant pan fyddant yn gorffen addysg oedran ysgol, ond mae bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys atal digartrefedd ymysg pobl ifanc. Mae’r Fframwaith yn cefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i’r llwybr cywir i ddiwallu eu hanghenion ac i adeiladu ar eu cryfderau. Er mwyn cael sail gryf i gyflawni’r Fframwaith mae angen gwir gydweithredu rhwng partneriaid arnom – awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru, Cymru’n Gweithio, ysgolion, darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16, y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol – ac ymdeimlad o rannu atebolrwydd.
Rydym yn gwybod bod cydweithio, cefnogaeth ac adnoddau wedi eu teilwra drwy’r Fframwaith yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau’n pobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol neu’r rheini sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi.
Mae nodi yn gynnar y bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed sydd mewn perygl o ymddieithrio oddi wrth addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu o ddod yn ddigartref, yn rhan allweddol o’r Fframwaith. Mae’r Fframwaith yn cynnig cymorth a chyfleoedd i’r bobl ifanc hynny i gyflawni eu hamcanion. Mae’n ein galluogi ni i gyd i ddeall anghenion pobl ifanc, i roi cymorth neu ddarpariaeth briodol yn ei lle ac i fonitro ac annog eu datblygiad.
Mae’r Fframwaith yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol drwy ein helpu i ailennyn diddordeb pobl ifanc a chodi eu dyheadau. Ynghyd â’r Warant i Bobl Ifanc, mae’n cyfrannu at ein cerrig milltir cenedlaethol, gan gynnwys y garreg filltir o sicrhau bod o leiaf 90% o bobl rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
Mae’r Fframwaith yn cydnabod y cysylltiad rhwng nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, digartrefedd, ac iechyd meddwl gwael. Mae’r partneriaid sy’n cynorthwyo i gyflawni’r Fframwaith yn cefnogi iechyd meddwl ein pobl ifanc trwy ddefnyddio gwasanaethau ac adnoddau llesiant emosiynol a meddyliol presennol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein pobl ifanc.
Rydym yn cydnabod y cyfnod anodd y mae pobl ifanc a’r rheini sy’n gweithio’n galed i’w cefnogi yn ei wynebu ar hyn o bryd, gan gynnwys effaith y pandemig, yr argyfwng costau byw ac effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n rhannu pryderon pobl eraill am golli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiectau sydd wedi cefnogi pobl ifanc mewn perygl o ymddieithrio neu bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. O dan gynllun amgen Llywodraeth y DU, sef y Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym yn wynebu bwlch cyllido sylweddol.
Yn ystod y cyfnod heriol hwn rydym yn ceisio cryfhau’r Fframwaith i sicrhau’r canlynol:
- bod mwy o bobl ifanc wrth orffen addysg oedran ysgol yn dilyn y llwybr sydd yn addas iddyn nhw, boed yn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant neu hunangyflogaeth (gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd o dan ein Gwarant i Bobl Ifanc)
- bod pobl ifanc yn cael eu hatal rhag dod yn ddigartref
- bod iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc yn gwella gan eu bod yn teimlo eu bod yn gwneud rhywbeth sydd yn bwysig iddyn nhw, a lle maent yn teimlo eu bod ar y llwybr cywir.
Rwy’n falch o’n dull gweithredu trawslywodraethol o gryfhau’r Fframwaith, a’r cydweithio dwys sydd wedi digwydd er mwyn datblygu’r canllawiau newydd hyn, a oedd yn cynnwys fy mhortffolio fy hun yn ogystal â phortffolios cydweithwyr Gweinidogol eraill: Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Mae’r canllawiau newydd yn amserol gan eu bod yn nodi dull fydd yn helpu i wneud Cymru yn genedl ail gyfle, lle rydym yn gweithio gyda’n gilydd i atal digartrefedd a thlodi. Bydd y Fframwaith yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nod hwn, fel y caiff ein plant gefnogaeth a chyfle i ffynnu. Byddwn ninnau yn torri cylchoedd o amddifadedd sydd wedi pontio cenedlaethau er mwyn cael effaith bellgyrhaeddol a chadarnhaol.
Mae copi o’r Trosolwg ar gael yma.
Mae copi o’r Llawlyfr ar gael yma.