Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Rydym yn croesawu adroddiad 'Ail gartrefi – Datblygu polisïau newydd yng Nghymru', gan Dr Simon Brooks. Mae’n ysgolhaig rhyngddisgyblaethol gyda phrofiad mewn sawl maes gan gynnwys hanes, amlddiwylliannaeth, theori wleidyddol, polisi cyhoeddus a chynllunio ieithyddol. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Dyfarnodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol grant i Academi Hywel Teifi er mwyn craffu ar bolisi cyhoeddus ar ail gartrefi yng Nghymru a Chernyw. Yng ngoleuni’r diddordeb yn y maes polisi hwn, gofynnodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a fyddai modd i’r ymchwil wneud argymhellion polisi.
Mae'r adroddiad yn adeiladu ar bapurau blaenorol yn y maes polisi hwn sy'n dyddio'n ôl i'r 1970au. Mae hefyd yn cwmpasu canfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyd-bwyllgor Cynllunio Gwynedd ac Ynys Môn ym maes ail gartrefi ac mae hyn eto’n cryfhau ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer y maes hwn.
Mae’r adroddiad yn gosod allan cyd-destun polisi y drafodaeth am ail gartrefi, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw ail gartrefi a’r materion cysylltiedig yn ffenomen i Gymru gyfan. Yn hytrach, mae’n cynnig yr angen am ymyraethau rhanbarthol neu leol. Fel y nododd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn y Datganiad Ysgrifenedig ar 29 Ionawr, mae ail gartrefi yn faes cymhleth ac ni cheir un ateb penodol i’r sefyllfa. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r farn honno.
Fel y noda'r adroddiad, rydym ar hyn o bryd mewn cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen rhwng effeithiau dinistriol COVID-19 a’n hansicrwydd ynghylch effaith lawn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ein heconomi, yn ogystal â'r heriau niferus y mae ein cymunedau yn eu hwynebu.
Mae hwn yn adroddiad cytbwys, sy'n ddadansoddiad manwl o'r heriau amlweddog, sy’n cynnwys materion cynllunio, twristiaeth, trethiant a chynaladwyedd ein cymunedau. Mae hefyd yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu datrysiadau effeithiol.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ganfod datrysiadau cytbwys ac ymarferol ar gyfer y system gyfan er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau lleol, yn ogystal â sicrhau eu cynaliadwyedd a'u ffyniant hirdymor.
Ers y pandemig, rydym wedi gweld pryderon cynyddol am sut y gall nifer uchel o ail gartrefi effeithio ar rai o'n cymunedau ac yn arbennig ar gynaliadwyedd hirdymor cadarnleoedd y Gymraeg. Rydym yn pryderu am ddyfodol y cymunedau hyn ac yn croesawu’r ystyriaethau ieithyddol sydd yn yr adroddiad.
Dymunwn ddiolch yn fawr i Dr Brooks am ei waith trylwyr ar yr adroddiad hwn, i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe am gyllido a chomisiynu y darn hwn o waith.
Bydd gweminar yn cael ei chynnal i drafod yr adroddiad ac edrychwn ymlaen at y drafodaeth ar ei ganfyddiadau.