Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft heddiw, a fydd yn cynnwys cyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol.
Bydd yn cynnwys cyllid cylchol o tua £70 miliwn i godi cyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol, fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen.
Bydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn derbyn y cyllid fel y gallant weithredu’r cynnydd i’r cyflog byw gwirioneddol – i £10.90 yr awr – y bydd gweithwyr yn cael budd ohono erbyn mis Mehefin 2023.
Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo’n annibynnol gan y Resolution Foundation ac yn cael ei oruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw. Bydd y cynnydd yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a phlant. Bydd hefyd yn cynnwys cynorthwywyr personol sy’n darparu gofal a chymorth a ariennir drwy daliad uniongyrchol.
Er gwaethaf y cyd-destun economaidd a chyllidol heriol, rydyn ni’n gwbl ymroddedig o hyd i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.
Rwy’n falch o allu cynnal ein hymrwymiad i weithwyr gofal cymdeithasol, a bydda i’n dweud rhagor am sut y byddwn yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus pan fydda i’n cyhoeddi manylion llawn y Gyllideb yn ddiweddarach heddiw.