Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ein Rhaglen Frechu wedi bod yn eithriadol dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae mwy nag 1.1 miliwn o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf, a bron i 300,000 o bobl wedi cael y cwrs llawn. Mae’r data dros y diwrnodau diwethaf yn dangos bod ein timau brechu’n gallu gweithio’n gyflym pan fo cyflenwadau ar gael; gan frechu ar gyfradd o tua 1% o’r boblogaeth bob diwrnod.
Rydw i wedi bod yn glir drwy gydol y cyfnod mai’r cyflenwad yw’r ffactor gwan yn ein rhaglen. Pe bai gennym ragor o gyflenwadau, gallem frechu’n gynt.
Bydd aelodau’n ymwybodol o’r adroddiadau neithiwr o ostyngiad yn y cyflenwadau sydd ar gael ledled y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi gwybod i ni y bydd rhywfaint o’r cyflenwadau rydym wedi bod yn disgwyl cyrraedd y DU cyn canol Ebrill, nawr yn cael eu danfon hyd at 4 wythnos yn hwyrach nag a fwriadwyd i ddechrau.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd na ddylai hyn effeithio ar ein gallu i gyflawni ein hymrwymiadau i gynnig dos cyntaf y brechlyn i’r 9 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill a phob oedolyn cymwys arall erbyn diwedd mis Gorffennaf. Fodd bynnag, fel rydym wedi bod yn gwneud ar hyd y daith, rydym yn edrych ar yn union beth mae’r gostyngiad hwn yn ei olygu ar gyfer ein rhaglen yng Nghymru. Byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU gyda’r nod o sicrhau ein bod yn cyrraedd y cerrig milltir yn ein strategaeth genedlaethol.
Cafodd cyflenwadau sylweddol o’r brechlyn eu darparu i ganolfannau brechu a phractisau meddygon teulu wythnos diwethaf, ac mae mwy o gyflenwadau yn cael eu danfon yr wythnos hon. Felly ni fydd y rheini sydd wedi derbyn eu hapwyntiad ar gyfer y brechlyn yn cael eu heffeithio.
Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi ein ail ddiweddariad i’n strategaeth genedlaethol. Byddwn yn edrych eto ar sut rydym yn cyrraedd ein cerrig milltir wrth i ni gwblhau’r diweddariad hwn dros y diwrnodau nesaf.