Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru yn awr yn gwahodd unigolion yng ngrŵp 6 ar restr blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Y rhain yw’r unigolion 16 i 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o salwch difrifol a marwolaeth. 

Ni fu unrhyw newidiadau i grŵp 6 ar y rhestr flaenoriaeth, ond roeddwn eisiau esbonio i’r Aelodau sut y diffiniwyd asthma difrifol ar gyfer ei gynnwys yn y grŵp hwn. 

Mae Llywodraeth Cymru, fel gwledydd eraill y DU, yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu sydd, ers mis Rhagfyr 2020, wedi argymell mai dim ond pobl ag  asthma difrifol sy’n wynebu risg uwch o ganlyniad i COVID-19. Nid yw unigolion ag asthma ysgafn i gymedrol yn wynebu risg uwch o ganlyniadau difrifol o ganlyniad i COVID-19 ac nid yw’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell y dylent gael y brechlyn ar hyn o bryd. 

Dim ond pobl gydag asthma difrifol sy’n cael eu cynnwys yng ngrŵp 6 ac mae’r bobl hyn wedi’u diffinio fel pobl sy’n defnyddio corticosteroidau drwy’r geg (o leiaf dri phresgripsiwn yn y ddwy flynedd ddiwethaf) neu sydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd gwaethygiad yr asthma. Does dim cyfyngiad o ran amser ar dderbyn i’r ysbyty.

Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at ddarparwyr gofal sylfaenol ar 5 Mawrth 2021 i roi esboniad ac arweiniad iddynt ar nifer o grwpiau o fewn grŵp 6, gan gynnwys asthma. Caiff y llythyr ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ysgrifenedig hwn.

Yn amodol ar gyflenwad, rydym wedi ymrwymo i gynnig y brechlyn i bawb yng ngrwpiau 5-9 erbyn canol mis Ebrill ac mae’r bobl yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 a 6 yn cael eu gwahodd i ddod i apwyntiadau ar hyn o bryd.