Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy Natganiad Llafar ar 24 Tachwedd 2020, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod heddiw yn lansio menter cyfarpar diogelu personol am ddim ar gyfer pob gyrrwr cerbydau tacsi a cherbydau hurio preifat trwyddedig (PHV) yng Nghymru, gan gynnwys gyrwyr Uber,

Mae'n fenter hon am gyfnod penodol wedi'i chynllunio i fod â phwrpas triphlyg:

• cydnabod cyfraniad pwysig gyrwyr tacsis a PHV at  drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru;

• sicrhau bod y dull hwn o deithio mor ddiogel â phosibl, ar gyfer gyrwyr a theithwyr;

• sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer y sector hwn yn cyd-fynd yn agosach â’r ddarpariaeth ar gyfer gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill yng Nghymru.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y llywodraeth eisoes yn darparu cyllid cymorth brys COVID i wasanaethau rheilffyrdd a bysiau yng Nghymru, lle mae cyfarpar diogelu personol yn gost a ganiateir o dan y cynlluniau hynny.

O dan delerau'r cynnig hwn bydd pob gyrrwr trwyddedig yn gymwys i hawlio pecyn o Gyfarpar Diogelu Personol am ddim gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion glanhau sy'n ddigonol ar gyfer chwe mis o ddefnydd. Gwnaed pob ymdrech i ddod o hyd i gynnyrch gan gyflenwyr lleol, gan gynnwys Rototherm ym Margam a Bio Hygiene yng Nghaerffili. Gwerth pob pecyn yw £73.50, gan gynnwys postio a phacio am ddim.

Yn ogystal, bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhoi ar wefannau Llywodraeth Cymru, CLlLC ac awdurdodau lleol, gan gynnwys sut a ble y gall gyrwyr hawlio eu pecyn cyfarpar diogelu personol am ddim.

Mae'n bleser gennyf hysbysu'r Aelodau bod y fenter hon yn deillio o gydweithio agos a chydweithredol rhwng y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, CLlLC, Lyreco, awdurdodau lleol gyda'm swyddogion. Drwy barhau i weithio gyda'n gilydd gallwn barhau i gadw Cymru'n ddiogel.

Fel rydym wedi gwneud drwy gydol y pandemig hwn, byddwn yn parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr undebau llafur a diwydiant i ystyried pa gamau eraill y gallwn eu cymryd i ddiogelu ein gweithwyr trafnidiaeth ledled Cymru mewn modd priodol yn ystod yr adeg heriol hon.