Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 9 Mehefin mynychais gyfarfod cyntaf Cyngor Partneriaeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu fel arsyllydd, ar y cyd â Gweinidogion o’r Llywodraethau Datganoledig eraill.

Cafodd y cyfarfod ei gyd-gadeirio gan yr Arglwydd Frost, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet ac Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maroš Šefčovič a thrafodwyd mesurau ac arferion iechydol a ffytoiechydol a hwyluso masnach; pysgodfeydd; gorfodi’r gyfraith; ffioedd fisa; cyfranogiad yn rhaglenni’r Undeb; a diweddariadau ynghylch y fframweithiau sefydliadol.

Ysgrifennais at yr Arglwydd Frost ar ôl y cyfarfod; amgaeir copi o’r ohebiaeth gyda’r Datganiad Ysgrifenedig hwn.