Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan MS, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wrth galon Cymru, mae ein gweithwyr iechyd a gofal wedi, ac yn parhau i weithio’n aruthrol o galed i ofalu am ein pobl.
Hoffwn gydnabod a diolch i bob gweithiwr iechyd a gofal am ei ymrwymiad a’i ymdrech ddiflino wrth ofalu amdanom ni dan yr amgylchiadau hynod heriol hyn. Maen nhw wedi gorfod gweithio, ac yn parhau i weithio dan straen a phwysau mawr yn ystod pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae eu ffocws bob tro wedi bod ar ddarparu gofal a thriniaeth o’r radd flaenaf i bobl Cymru.
Ni allwn bwysleisio cymaint yr ydym yn bersonol bob tro wedi gwerthfawrogi eu gwaith caled a'u hymroddiad anhygoel, ond fyth cymaint ag yn ystod eu hymateb i'r feirws ofnadwy, difaddau hwn.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ddi-ben-draw. Mae’r pandemig yn parhau i gael effaith sylweddol ar bobl Cymru, ac rydym yn sylweddoli’n llawn y pwysau corfforol ac emosiynol anghredadwy sydd wedi bod ar ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o ganlyniad.
Felly, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn rhoi taliad bonws unigol o £735 i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol. Mae’r swm hwn wedi’i bennu er mwyn talu’r gyfradd dreth sylfaenol a chyfraniadau yswiriant gwladol, sy’n golygu y bydd nifer fawr o bobl yn cael yn agos at £500.
Gobeithiwn y bydd y taliad hwn yn gwneud rhywfaint i ddangos ein cydnabyddiaeth o’r gofal tosturiol y mae ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i ddarparu i bobl Cymru ar adeg pan rydyn ni wedi bod fwyaf agored i niwed.