Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn nodwedd annatod o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sy’n mynd drwy broses Pwyllgor y Senedd ar hyn o bryd.

O’r cychwyn cyntaf rwyf wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Leol a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i gyd-ddatblygu’r model Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Rwy’n awyddus i symud y sgyrsiau manwl hyn sy’n ymwneud â sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ymlaen yn ffurfiol, a heddiw rwy’n lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau drafft a fydd yn sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol ar draws Cymru.

Caiff y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig eu sefydlu i gyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â Chynllunio Datblygu Strategol a Chynllunio Trafnidiaeth Ranbarthol; byddant hefyd yn cael y pŵer i wneud pethau i hyrwyddo neu wella llesiant economaidd eu hardaloedd. Yn yr ardaloedd hyn mae consensws bod gweithio ar y raddfa hon yn gwneud synnwyr – gosod dulliau cynllunio datblygu economaidd, trafnidiaeth a defnydd tir ochr yn ochr er mwyn datblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus ac annog twf ar lefel leol.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynnwys y Rheoliadau – sy’n nodi eu hardal ddaearyddol; y trefniadau llywodraethu, cyfansoddiadol, cyllid a cyllido craidd; darpariaethau ar gyfer staffio a’r gweithlu; a’r swyddogaethau y byddant yn eu harfer.

Rwy’n ymgynghori ar y Rheoliadau drafft ar y cam hwn yn nhrafodaethau pwyllgor y Senedd, a chyn i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol, er mwyn rhoi cyfle cynnar a helaeth i lywodraeth leol, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb, roi eu barn ar y cynigion manwl sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau.

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, fy mwriad yw gosod y rheoliadau sefydlu gerbron y Senedd i’w hystyried yn gynnar yn 2021. Bydd y rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, ac yn cael eu hystyried gan y Senedd ar y cam hwn.

Daw’r ymgynghoriad 12 wythnos hwn i ben ar 4 Ionawr 2021. Gallwch weld y ddogfen ymgynghori a dogfennau ategol, gan gynnwys asesiad effaith rheoleiddiol, drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/rheoliadau-i-sefydlu-cyd-bwyllgorau-corfforedig

Ochr yn ochr â’r broses ymgynghori ffurfiol hon, rwyf hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill.

Rwyf wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill ar ddatblygu Cyd-bwyllgorau Corfforedig ymhellach a’u rhoi ar waith, ac rwy’n edrych ymlaen at dderbyn eich barn a’ch safbwyntiau drwy’r broses ymgynghori hon.