Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni fynd heibio’r garreg filltir o 100 diwrnod tan dechrau’r twrnamaint, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio elwa i'r eithaf ar y cyfleoedd a'r manteision a fydd yn deillio o’r ffaith y bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar. Bydd gêm gyntaf Cymru yn y twrnamaint yn erbyn yr UDA ar 21 Tachwedd 2022.

Mae amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn cynnwys: hyrwyddo Cymru; cyflwyno ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y digwyddiad; a sicrhau gwaddol positif a pharhaol. 

Tra bydd llawer o sefydliadau, yng Nghymru ac yn fyd-eang, yn ceisio cefnogi eu hystod eu hunain o weithgareddau i ddathlu'r achlysur gwych hwn, mae Llywodraeth Cymru'n sefydlu cronfa sy'n anelu at ychwanegu gwerth at nifer fach o brosiectau eithriadol a all wireddu ein hamcanion craidd. Mae cyfanswm o hyd at £1.5m ar gael ar gyfer y Gronfa Cymorth i Bartneriaid a gall sefydliadau wneud cais am hyd at £500,000 i ddarparu project neu weithgareddau amrywiol.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1pm ddydd Gwener 26 Awst 2022. Gellir gofyn am ffurflen gais drwy e-bostio TimCymru.CwpanYByd22@llyw.cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu ymgyrch farchnata yn gysylltiedig a Chwpan y Byd. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol craidd ar draws brand, busnes a thwristiaeth yn ogystal ag ymgyrch gref yng Nghymru. Mae'r ymgyrchoedd yn targedu marchnadoedd sy’n cynnwys Cymru, UDA, DU, a Qatar. Mae'r ymgyrch farchnata hefyd yn ceisio cyflwyno gweithgareddau drwy waith gyda'n cenhadon mwyaf – y cefnogwyr a lleisiau o Gymru – yn ogystal â gyda phartneriaid, Cymry ar wasgar a Llysgenhadon Byd-eang Cwpan y Byd.

Byddwn hefyd yn defnyddio Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau'r cyfle mwyaf posibl i hyrwyddo Cymru, yn enwedig yn Qatar a Dubai, yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i'r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.