Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn buddsoddiad ychwanegol o £150 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf, gwelwyd gwelliannau parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn yn yr amseroedd aros am driniaethau dewisol y GIG. Ar ddiwedd mis Mawrth 2019:

  • roedd perfformiad 26 wythnos 1.4 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth 2018, ac roedd ar ei orau ers mis Gorffennaf 2013;
  • roedd nifer y bobl fu’n aros dros 36 wythnos 26% yn is na'r sefyllfa ym mis Mawrth 2018, sef y perfformiad gorau ers mis Mai 2013;
  • roedd nifer y bobl fu’n aros dros 52 wythnos 28% yn is nag ym mis Mawrth 2018;
  • roedd nifer y bobl fu'n aros dros 8 wythnos am brofion diagnosteg 1% yn is o gymharu â sefyllfaoedd tebyg ym Mawrth 2018, er bod cyfres o brofion cardioleg newydd wedi'u hychwanegu;
  • roedd nifer y bobl fu’n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi 98% yn is nag ym mis Mawrth 2018 a dyma'r sefyllfa orau y rhoddwyd gwybod amdani erioed.

Mae hyn yn dangos bod buddsoddiad wedi'i dargedu wedi gweithio. Yn 2018-19, gwelwyd gwelliannau yn chwech o'r saith bwrdd iechyd, gyda thri bwrdd iechyd yn rhoi gwybod nad oedd unrhyw un wedi aros dros 36 wythnos ar ddiwedd mis Mawrth, a'r ddau fwrdd iechyd arall yn rhoi gwybod am sefyllfa a oedd yn well na'u proffil.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi £50 miliwn pellach ar gyfer 2019-20 i fyrddau iechyd adeiladu ar y gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf a lleihau amseroedd aros ymhellach erbyn diwedd mis Mawrth 2020. 

Bydd £2 filiwn o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r Fframwaith Ansawdd a Chyflenwi ar gyfer Adrannau Argyfwng, ariannu estyniad cynllun Llesiant ac Adref yn Ddiogel yr Adran Argyfwng a gynhaliwyd drwy'r Groes Goch yn ystod gaeaf 2018-19 ac estyniad y cynllun Adref o'r Ysbyty a ddarparwyd gan Gofal a Thrwsio. Mae £3.5 miliwn ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer byrddau iechyd i wella oedi o ganlyniad i ôl-gronni dilynol, drwy weithio gyda'r tîm Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio, fel y disgrifiwyd yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus diweddar.

Bydd gweddill y cyllid yn cael ei ddefnyddio i leihau nifer y cleifion sy'n aros am gyfnodau hir, ac i fyrddau iechyd ddatblygu atebion cynaliadwy ymhellach.

Bydd angen i fyrddau iechyd gyrraedd y targedau maen nhw'n eu gosod er mwyn cael y cyllid yn llawn. Rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach o ran amseroedd aros, fel yr ydym wedi'i weld yn y tair blynedd diwethaf.