Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis-Thomas AS, Y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cronfa gwerth £53m i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio ag effaith y pandemig coronafirws.

Bwriad y gronfa yw darparu cefnogaeth hanfodol i theatrau, orielau, lleoliadau cerdd, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, orielau, gwasanaethau archif, digwyddiadau a gwyliau, a sinemâu annibynnol sydd i gyd wedi gweld colled refeniw yn ddramatig oherwydd y pandemig. Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau ac unigolion yn y sector.

Daw’r cyhoeddiad heddiw ar ben y pecyn portffolio £18m a ddarparwyd ym mis Ebrill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru.

Rydym wedi gwrando a gweithio gyda'n partneriaid ar draws y sectorau diwylliannol a chreadigol i roi'r ail becyn cymorth hwn at ei gilydd. Hoffem gofnodi ein diolch am weithio'n adeiladol gyda ni i ddarparu'r gefnogaeth hon. Rydym yn cydnabod yr heriau enfawr a digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar wead bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo'r gwytnwch a'r creadigrwydd a ddangosir.

Bydd y gronfa’n cael ei darparu ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae ganddo “gontract diwylliannol” yn ganolog iddo i helpu’r sector i ddod allan o’r pandemig yn gryfach nag erioed. Bydd y pecyn hwn yn helpu i gefnogi llawer yn y sectorau i ymateb i'r pwysau a'r heriau y mae coronafirws wedi'u gosod arnynt, mae hefyd yn gyfle unigryw i gyflawni newid sylweddol - byddwn yn datblygu contract diwylliannol fel y gall y sector ail-ymddangos yn gryfach. Byddai hyn yn sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn ymrwymo i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio gyda phwrpas cymdeithasol cadarnhaol wedi'i dargedu.

Cyfanswm y pecyn cyllido yw £53m yn 2020-21 sy'n cynnwys cyllid refeniw o £50m a £3m cyfalaf. Cyhoeddir manylion pellach, gan gynnwys canllawiau i ymgeiswyr, yn ddiweddarach ym mis Awst.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.