Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020, rwyf wedi cyhoeddi hysbysiad yn datgymhwyso dros dro ofynion y cwricwlwm sylfaenol ar gyfer Cymru a'r trefniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir (y rhai a ariennir yn unol â threfniadau gydag awdurdodau lleol).

Wrth i ysgolion agor i fwy o ddysgwyr, rwyf wedi nodi'n glir mai canolbwyntio ar iechyd a lles y dysgwyr ddylai fod yn flaenoriaeth inni, gan eu cynorthwyo i baratoi ar gyfer dysgu yn yr ysgol eto ac ailymroi i wneud hynny, yn enwedig yn achos y dysgwyr hynny sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y chwalfa bresennol. Byddaf hefyd yn disgwyl i ysgolion ac ymarferwyr fod yn defnyddio'r amser hwn i baratoi ar gyfer dull dysgu cyfunol a fydd yn cynnwys cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell. Bydd datgymhwyso'r darpariaethau hyn yn rhoi'r cyfle a'r hyblygrwydd angenrheidiol i ymarferwyr gael canolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn.

Mae'r darpariaethau sydd wedi'u datgymhwyso yn cynnwys:

  • Adran 101 o Ddeddf Addysg 2002 ("Deddf 2002") sy'n gosod gofynion ar ysgolion a gynhelir yng Nghymru i ddarparu cwricwlwm sylfaenol gan gynnwys: y cwricwlwm cenedlaethol, addysg grefyddol, addysg bersonol a chymdeithasol, addysg gysylltiedig â gwaith ac, ar gyfer ysgolion uwchradd, addysg rhyw.
  • Adran 109 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, yn ogystal ag adran 110 sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei weithredu mewn ysgolion meithrin a gynhelir ac mewn rhai lleoliadau addysg feithrin eraill yng Nghymru.
  • Adrannau 116A i 116K o Ddeddf 2002 sy'n gwneud darpariaethau ynghylch y cwricwlwm lleol gan gynnwys gofynion bod pob person ifanc yn cael cynnig y nifer canlynol o ddewisiadau o leiaf: 25 o ddewisiadau yn CA4 gan gynnwys o leiaf 3 dewis galwedigaethol a 30 dewis yn y cyfnod ôl-16 gan gynnwys o leiaf 5 dewis galwedigaethol.
  • Gorchmynion a wnaed o dan adran 108 o Ddeddf 2002 sy'n ymwneud â'r cwricwlwm cenedlaethol ac sy'n gosod gofynion ar ysgolion i’w cyflawni.
  • Deilliannau dymunol, rhaglenni addysg, a threfniadau asesu ar gyfer darpariaeth y Cyfnod Sylfaen.
  • Targedau cyrhaeddiad, trefniadau asesu gan gynnwys cymedroli a rhaglenni astudio mewn perthynas â Chyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.
  • Y profion rhesymu ar bapur a'r asesiadau rhifedd a darllen personol ar-lein ar gyfer pob dysgwr ym mlynyddoedd 2 i 9.

Rwyf yn atal y gofynion statudol hyn gan eu bod wedi'u cynllunio i gael eu darparu mewn amgylchedd ystafell ddosbarth. Nid yw hynny'n atal ysgolion rhag defnyddio'r rhaglenni astudio neu'r trefniadau asesu, fel yr asesiadau personol, lle bo'r rhain yn briodol i'w cyd-destun lleol ac i anghenion eu dysgwyr. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau sy'n rhoi cyngor ar ddysgu ac addysgu y bydd ysgolion a lleoliadau’n dymuno efallai eu darparu ar gyfer gweddill tymor yr haf.

Fel y’i gwnaed yn orfodol o dan y pwerau yn Neddf y Coronafeirws 2020, bydd yr hysbysiad yn gymwys i ddechrau am gyfnod o un mis o 22 Mehefin hyd nes 21 Gorffennaf. Byddaf yn parhau i adolygu hyn, yng ngoleuni'r cyngor ar iechyd y cyhoedd a'r trefniadau gweithredu ar gyfer ysgolion a lleoliadau, yn ystod gweddill tymor yr haf.

Gellir gweld copi o'r hysbysiad yma:

https://llyw.cymru/deddfwriaeth-chanllawiau-coronafeirws-ar-y-gyfraith?_ga=2.262963980.1680416200.1592909645-1552093897.1570188855