Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae’r cyfnod clo yng Nghymru wedi arwain at ostyngiad sydyn a difrifol yn nifer y teithwyr ar fysiau ac o’r herwydd mae bron i’r cyfan o’r refeniw a geir drwy werthu tocynnau wedi cael ei golli. Yn ystod y cyfnod hwn mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gyllido gweithredwyr bysiau yn unol â’r lefelau galw a welwyd cyn dyfodiad Covid drwy’r Gronfa Galedi ar gyfer y Sector Bysiau. Mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi galluogi gweithredwyr bysiau i gynnal amserlen sylfaenol er mwyn galluogi gweithwyr allweddol i deithio i’r gwaith ac er mwyn i bobl sydd heb gar fedru teithio er mwyn prynu bwyd a chyflenwadau meddygol hanfodol.
Er i’r cymorth cychwynnol hwnnw gynnal gwasanaethau ar lefel a oedd yn rhyw 30% o’r lefelau a oedd yn cael eu darparu cyn dyfodiad COVID, mae’r dystiolaeth gan weithredwyr bysiau yn dangos bod llacio’r cyfnod clo wedi arwain at fwy a mwy o alw am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym yn disgwyl i’r galw hwn gynyddu ymhellach wrth i blant a phobl ifanc ddychwelyd i ysgolion a cholegau ac wrth i fwy o rieni ddychwelyd i weithleoedd. Yn ogystal, ac os bydd y sefyllfa’n parhau’n ffafriol, byddwn yn adolygu’r cyfyngiad ar Deithiau Hanfodol yn Unig ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi bodoli ers dechrau’r cyfnod clo. Mae hyn yn deillio o newidiadau i’r drefn ynghylch cadw pellter cymdeithasol a chyflwyno masgiau wyneb gorfodol ar Drafnidiaeth Gyhoeddus.
Wrth gwrs mae’r gofynion ynghylch cadw pellter cymdeithasol hefyd yn golygu na all bysiau ond gludo tua hanner nifer y teithwyr a allai deithio cyn y cyfnod clo. Yn sgil patrymau o ran llai o wasanaethau a’r angen i gadw pellter cymdeithasol mae capasiti llai wedi golygu bod pobl yn cael eu gadael yn rheolaidd mewn safleoedd bysiau. Mae hyn yn annerbyniol ac rydym yn cydnabod bod angen cynnig rhagor o gymorth er mwyn cynyddu’r capasiti.
Yn ogystal ag effeithio ar deithwyr, mae’r ffaith bod llai o gapasiti ar fysiau oherwydd y gofynion i gadw pellter cymdeithasol, yn parhau i gael effaith andwyol ar y refeniw a ddaw i law drwy werthu tocynnau. Nid yw’r refeniw a geir drwy werthu tocynnau na’r cyllid brys sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigon i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â staff a thanwydd ychwanegol a mwy o waith cynnal a chadw ar y fflyd bysiau er mwyn darparu mwy o wasanaethau bysiau nag sydd ar gael ar hyn o bryd. Felly, mae angen cyllid ychwanegol er mwyn darparu mwy o wasanaethau bysiau nag sydd ar gael ar hyn o bryd, ac er mwyn diwallu galw cynyddol ac ysgafnhau’r pwysau ar gapasiti.
Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn darparu £10 miliwn o gyllid ychwanegol er mwyn gwella lefelau gwasanaethau bysiau hyd ddiwedd mis Medi.
Mae Gweinidogion hefyd wedi ymrwymo i gynnal y lefelau gwasanaeth uwch ar ôl i’r pecyn cyllid hwn ddod i ben. Mae cyhoeddiad newydd ynghylch cylch newydd o gyllid a fydd yn cefnogi’r diwydiant bysiau hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol wrthi’n cael ei baratoi.
Er y bydd y galw am deithiau yn wahanol iawn yn y tymor byr a’r hirdymor a bydd y sefyllfa’n bendant yn parhau’n ansicr mae’n amlwg fod nifer fawr o bobl yn parhau’n ddibynnol ar y rhwydwaith bysiau er mwyn cyrraedd y gwaith, manteisio ar addysg a dysgu, er mwyn mynychu apwyntiadau ysbyty, ymweld â ffrindiau, mynd i siopa a defnyddio gwasanaethau hamdden.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol a’r gweithredwyr i benderfynu ar y llwybrau a’r amserlenni cychwynnol a fydd yn mynd i’r afael â’n blaenoriaethau cychwynnol, sef helpu disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol, darparu gwasanaethau mwy aml pan fydd y galw’n fwy na’r capasiti, a darparu gwasanaethau sy’n angenrheidiol yn gymdeithasol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ar draws ein rhanbarthau a’n cymunedau fedru manteisio ar swyddi a gwasanaethau.
Byddaf yn mynd ati’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd wrth inni barhau i ddatblygu ymyriadau i helpu pobl sy’n teithio ar fysiau, a’r gweithredwyr sy’n darparu’r gwasanaethau ar eu cyfer.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.