Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pan ddechreuodd y Coronafeirws ledaenu yng Nghymru, cymerwyd camau na welwyd eu tebyg o'r blaen, yn seiliedig ar gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, i gynghori pobl oedd eisoes â chyflyrau iechyd difrifol i aros gartref a gwarchod eu hunain. Y rheswm dros wneud hynny oedd bod y dystiolaeth yn awgrymu bod y bobl hyn yn fwy agored i ddioddef effeithiau mwyaf difrifol COVID-19.
Rwy'n falch iawn bod cynifer wedi bod yn gwarchod eu hunain mor ofalus – gan amddiffyn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ogystal â'u hunain. Rydym yn cydnabod bod y misoedd diwethaf hyn wedi bod yn heriol tu hwnt, gydag ychydig iawn o gysylltiad wyneb yn wyneb ag eraill.
Rwy'n hynod o falch o bob un sydd wedi bod yn darparu cymorth hanfodol i alluogi pobl i warchod eu hunain, ac sy'n parhau i ddarparu'r cymorth hwnnw. Mae ein partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol, fferyllfeydd, gwirfoddolwyr a chwmnïau mawr sy'n manwerthu bwyd wedi dod at ei gilydd i wneud hyn yn bosibl.
Bydd y rhai sydd yn gwarchod eu hunain yn gwybod bod y cyngor presennol yn parhau hyd at 15 Mehefin, ac fe fyddant yn eiddgar i wybod beth y gallan nhw ei wneud, ac na allan nhw ei wneud wedi i'r cyfnod hwnnw ddod i ben. Rwy'n awyddus i sicrhau nad ydym yn gofyn i bobl warchod eu hunain am gyfnod hwy nag sy'n gwbl angenrheidiol. Mae gwarchod eich hun yn beth anodd iawn i'w wneud, ac mae goblygiadau ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol y rhai sy'n gwneud hynny. Mae'n bwysig i'r cyngor yr ydym yn ei roi gydbwyso holl risgiau a manteision gwarchod.
Yn dilyn trafodaethau gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru, gallaf ddweud wrthych ei fod yn gwneud rhai mân newidiadau i'w gyngor ar gyfer y grŵp hwn o 1 Mehefin ymlaen. Er bod angen edrych yn ofalus ar unrhyw newidiadau, ac y bydd yn rhaid i'r bobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain ddilyn y mesurau hylendid a chadw pellter cymdeithasol yn gaeth iawn, o 1 Mehefin ymlaen, mae dau newid i'r cyngor ar gyfer y grŵp hwn:
1) Mae'r newid cyntaf yn gysylltiedig ag ymarfer corff. Hyd yma, y cyngor oedd na ddylai pobl sy'n gwarchod eu hunain adael eu cartrefi. Nawr, gan fod nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau wedi gostwng, a bod y risg o haint yn is, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cynghori y gall y rhai sy'n gwarchod eu hunain ddechrau gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Nid oes cyfyngiad ar yr ymarfer corff hwn yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yn gaeth pan fyddant allan. Nid oes modd dileu'r risg yn llwyr, ond rydym yn awgrymu y dylai'r rhai sy'n gwarchod eu hunain ymarfer ar adegau llai prysur, fel bod llai o risg o ddod i gysylltiad ag eraill.
2) Mae'r ail newid yn gysylltiedig â'r gallu i gyfarfod ag eraill. Fel Llywodraeth, rydym wedi cydnabod pwysigrwydd medru cwrdd â theulu a ffrindiau. Rydym eisoes wedi dweud wrth bawb arall yng Nghymru bod modd iddynt gyfarfod ag aelwyd arall o 1 Mehefin ymlaen, cyn belled ag y bo hynny yn yr awyr agored. Felly mae Prif Swyddog Meddygol Cymru nawr yn dweud y dylai fod modd i'r rhai sy'n gwarchod eu hunain fedru cyfarfod â phobl o aelwyd arall yn yr awyr agored ar yr un sail. Fodd bynnag, ni ddylent fynd i mewn i dŷ rhywun arall na rhannu bwyd gyda nhw.
Rydym wedi cynghori pawb yng Nghymru i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a sicrhau arferion hylendid da wrth gyfarfod yn yr awyr agored. Ar gyfer y rhai sy'n gwarchod eu hunain, mae'n hanfodol cadw'n hollol gaeth at y rheolau hynny.
Nid oes unrhyw newidiadau eraill yn cael eu gwneud i'r cyngor ar gyfer y rhai sy'n gwarchod eu hunain ar hyn o bryd. Dylai pobl sy'n gwarchod eu hunain barhau i ddilyn yr holl gyngor arall a roddwyd yn flaenorol. Ni ddylent fynd i siopa nac adael y cartref i fynd i'r gwaith. Dylent barhau i gael cyflenwadau o fwyd a meddyginiaeth i'r cartref.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn parhau i ddatblygu ei gyngor ar gyfer yr hyn y dylai pobl sy'n gwarchod eu hunain ei wneud, a'r hyn na ddylent ei wneud, ar ôl 15 Mehefin. Bydd pawb sy'n gwarchod eu hunain yn derbyn llythyr oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru cyn 15 Mehefin yn nodi'r camau nesaf.