Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn sgil diweddaru’r meini prawf meddygol ar gyfer gwarchod, ac yn unol â thair gwlad arall y DU, bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn anfon llythyrau yr wythnos hon at ragor o gleifion sy’n wynebu risg uchel, yn eu cynghori i warchod eu hunain. Mae’r rhan fwyaf o’r cleifion hyn yn perthyn i’r categorïau risg uchel sydd wedi’u pennu’n barod, ac maent wedi’u nodi yn dilyn chwiliadau mwy diweddar yn ein systemau gofal eilaidd. Yn ogystal â'r grwpiau hyn, cytunodd pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn ddiweddar y dylid cynghori pawb sy’n cael triniaeth dialysis arennol i warchod eu hunain.

O ganlyniad, mae tua 21,000 o gleifion wedi’u hychwanegu at y rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru (sy’n golygu y bydd cyfanswm y bobl yng Nghymru sy’n cael eu cynghori i warchod eu hunain yn codi i tua 121,000). Mae chwiliadau o'n system gofal sylfaenol yn parhau i gael eu cynnal yn ganolog ac mae’n bosibl y bydd rhagor o gleifion yn cael eu nodi. Rydym yn rhagweld y bydd y broses hon yn cael ei chwblhau yr wythnos hon ac y bydd unrhyw gleifion eraill y deuir ar eu traws yn cael llythyr oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol.

Mae'r rhestr o gyflyrau risg uchel yn cael ei hadolygu'n gyson ac rydym yn dilyn y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf er mwyn sicrhau ein bod yn canfod pawb a ddylai fod yn gwarchod eu hunain, ac yn cysylltu â nhw. O ystyried bod pobl sy’n gwarchod eu hunain yn gorfod cymryd camau mor ddifrifol - sef hunanynysu am 12 wythnos, gan gynnwys lleihau’r cyswllt ag aelodau eraill o'r cartref oni bai bod hynny’n hanfodol - mae'n bwysig mai dim ond y rhai sydd yn y categori risg uchel sy’n cael eu hychwanegu at y rhestr.

Yn unol â'r cyngor cychwynnol ar warchod am 12 wythnos a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth, mae'r llythyrau diweddaraf yn cynghori pobl i warchod eu hunain tan o leiaf 15 Mehefin 2020. Bydd pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cyfarfod eto i ystyried y camau nesaf a bydd rhagor o gyngor yn cael ei gyhoeddi cyn 15 Mehefin 2020 yn dweud wrth y rhai sy'n gwarchod eu hunain beth i'w wneud nesaf.

Bydd meddygon teulu yn cael rhestr wedi’i diweddaru a fydd yn rhoi gwybod iddynt pa rai o’u cleifion sydd wedi'u nodi'n ganolog, a bydd modd iddynt barhau i ychwanegu rhagor o enwau. Bydd hyn yn cynnwys meddygfeydd ar y ffin yn Lloegr sydd â chleifion sy’n byw yng Nghymru. Bydd clinigwyr/arbenigwyr gofal eilaidd yn cael copi o’r rhestr ddiweddaraf o Gleifion a Warchodir yng Nghymru a bydd modd yn awr iddynt hwythau ychwanegu cleifion.

Bydd yr awdurdodau lleol a'r manwerthwyr bwyd mawr yn cael copi o’r rhestr yr un pryd,  er mwyn i’r bobl hynny a ychwanegwyd allu manteisio ar y cymorth a ddarperir.