Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddiwygio’r trefniadau ar gyfer rhai apelau ardrethi annomestig yn sgil pandemig COVID-19.
Mae’r newidiadau’n effeithio ar apelau sy’n nodi Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau o ganlyniad i’r newidiadau economaidd ar draws y farchnad sy’n deillio o fesurau a chyfyngiadau’r llywodraeth a roddwyd ar waith mewn ymateb i’r pandemig.
Ein bwriad yw deddfu drwy geisio cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru ym Mil Rating (Coronavirus) and Directors Disqualification (Dissolved Companies) Llywodraeth y DU (Bil y DU), a fydd yn gweithredu i ddiystyru apelau COVID-19 ar sail Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau. Byddai apelau o’r fath, fel arall, yn arwain at symiau sylweddol o arian y trethdalwr yn mynd i fusnesau sydd wedi gallu gweithredu fel arfer drwy gydol y pandemig, ac i fusnesau sydd eisoes wedi elwa ar y rhyddhad ardrethi rydym wedi’i ddarparu drwy gydol 2021-21 a 2021-22.
Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno rheoliadau yng Nghymru a fydd yn cael effaith debyg i’r darpariaethau sydd i’w cynnwys ym Mil y DU, a byddai’r rheoliadau hynny yn gymwys hyd nes y daw Bil y DU yn gyfraith.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall unrhyw gyllid canlyniadol ychwanegol a ddyrannir i Gymru o ganlyniad i newidiadau tebyg gan Lywodraeth y DU, gael eu targedu orau i gefnogi ein cymunedau a busnesau yng Nghymru fel rhan o’n cyllideb a’n blaenoriaethau gwario.